Mater - penderfyniadau
Dynamic Resource Scheduling System (DRS) Update
30/07/2024 - Dynamic Resource Scheduling System (DRS) Update
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg a diweddariad ar y meddalwedd System Cofrestru Adnoddau Deinamig, y newidiadau a wnaed i’r gwasanaeth yn ystod camau profi’r cyfnod peilot a’r mesurau newydd a roddwyd ar waith i wella cyfraddau bodlonrwydd cwsmeriaid cyffredinol o ran y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y gwaith a oedd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad yn ategu ac yn cyd-fynd yn llwyr â’r gwaith oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i wella’r cynnig ar-lein gan y gwasanaeth tai, i’w gwneud yn haws ac yn fwy syml i gwsmeriaid weld diffygion a rhoi gwybod am waith atgyweirio a chefnogi’r hyn mae cwsmeriaid ei eisiau – gwasanaeth apwyntiadau cyfleus i gwblhau gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd wedi cael ei gyflawni hyd yma, yn ogystal ag amlinellu cam nesaf cynllun peilot y System Cofrestru Adnoddau Dynamig.
Roedd cyfarfodydd adolygu wedi cael eu cynnal gyda’r cynllunydd arweiniol a’r gweithredwyr sy’n gweithio ar y cynllun peilot ar hyn o bryd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hyn wedi rhoi cyfle i gael adborth ar feysydd a oedd wedi gweithio’n dda a meysydd a oedd angen gwelliannau pellach.
Croesawodd y Cynghorydd David Evans yr adroddiad a dywedodd y byddai’n ddifyr gweld sut y bydd cam nesaf y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn dod yn ei flaen. Gofynnodd a oedd y system hon ar gyfer y portffolio Tai yn unig neu os oedd modd i bortffolios eraill ddefnyddio’r system. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y system wedi bod yn canolbwyntio ar y gwasanaeth atgyweiriadau a chynnal a chadw, gyda’r bwriad i gyflwyno apwyntiadau archwiliadau i’r system yn ddiweddarach. Dywedodd bod y portffolio Gwasanaethau Stryd yn meddu ar ei system ei hun ond byddai gweithdai / sesiynau briffio staff i ddangos y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn cael eu trefnu ar gyfer bob portffolio ar draws y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Threw yngl?n â chostau contractau, dywedodd yr Uwch Reolwr bod costau contractau wedi cael eu darparu mewn adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor ond y byddai’n cael y wybodaeth hon ac yn ei rhannu gyda’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad a dywedodd bod hysbysu tenantiaid yngl?n â phryd y byddai gweithwyr yn ymweld â’u cartrefi i wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn welliant cadarnhaol i’r gwasanaeth.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor gael gweld sut yr oedd y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn gweithio ar ôl ei gwneud yn gwbl weithredol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r camau peilot a’r cam nesaf ym mhrofion y System Cofrestru Adnoddau Deinamig cyn i’r Cyngor newid i System Cofrestru Adnoddau Deinamig cwbl weithredol.