Mater - penderfyniadau
Workplace Recycling Regulations
30/10/2024 - Workplace Recycling Regulations
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd o 6 Ebrill 2024, byddai deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru yn dod i rym gan ei gwneud yn ofynnol i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’r gwastraff arall. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gweithle, fel busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau ddidoli eu deunydd y gellir ei ailgylchu yn yr un modd ag aelwydydd.
Nod y newid oedd gwella ansawdd a chyfanswm yr eitemau ailgylchu masnachol a gesglir ac a ddidolir ledled Cymru.
Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau’n cael eu gwahanu a’u casglu’n briodol, ac roedd gwaharddiad ar anfon deunyddiau y gellir eu hailgylchu i’w llosgi ac i’w tirlenwi i ddilyn. Byddai Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am sicrhau y dilynir y gwaharddiad ar waredu bwyd trwy garthffos.
Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o’r gofynion deddfwriaethol newydd ac yn amlinellu’r effaith bosibl ar y Cyngor a’r camau gweithredu sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfiaeth.
Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio drwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd, efallai y bydd cyfle i adolygu darpariaeth gwasanaethau ailgylchu ar gyfer busnesau, megis ehangu gwasanaeth casglu gwastraff masnachol y Cyngor ar sail y gellir codi tâl amdano.
Gallai un dewis arall sy’n cael ei ystyried gynnwys dynodi cyfleuster gwaredu gwastraff sengl (h.y. Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref) er mwyn derbyn deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu a chodi tâl amdanynt (pren, pridd, rwbel, gwastraff gwyrdd ac ati) gan y busnesau. Byddai hyn yn golygu y byddai angen cefnogaeth swyddfa gefn ychwanegol i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddyletswydd o ofal o safbwynt gwastraff ar gyfer cynhyrchu, cludo, cadw, gwaredu, trin, mewnforio neu reoli gwastraff yng Nghymru neu Loegr. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n ymdrin â gwastraff i’w gadw’n ddiogel, gan sicrhau yr ymdrinnir ag ef yn gyfrifol ac mai dim ond i fusnesau sydd wedi eu hawdurdodi i’w gymryd y caiff ei roi. Roedd hyn yn golygu y byddai’n rhaid newid y drwydded amgylcheddol ar gyfer safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref, proses a allai gymryd oddeutu 6 - 12 mis. Y bwriad oedd cynnwys y dewis yn y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r ddeddfwriaeth sy’n newid a’r effaith bosibl ar wasanaethau’r Cyngor; a
(b) Chefnogi’r dewis i archwilio cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau gwaredu a chasgliadau ailgylchu annomestig.