Mater - penderfyniadau
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
19/08/2024 - Public Sector Internal Audit Standards
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd hyn, ynghyd â'r asesiad allanol a gynhaliwyd yn 2022/23 yn dangos bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r holl ofynion yn gyffredinol. Roedd gwaith i fod i ddechrau ar oblygiadau’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd i’w gweithredu o 2025.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Glyn Banks ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.