Mater - penderfyniadau
Cynllun Strategol Archwilio Mewnol 2024-27
19/08/2024 - Internal Audit Strategic Plan
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2024/27 a oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniadau gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru. Cafodd yr holl archwiliadau blaenoriaeth uchel ac adolygiadau blynyddol/dwywaith y flwyddyn eu cynnwys i’w cwblhau yn 2024/25 gyda sgorau blaenoriaeth yn cael eu dangos. Byddai'r dyddiad a ddangosir yn y cyflwyniad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r cyfnod adrodd.
Yn ystod y drafodaeth ar adnoddau Archwilio Mewnol, dywedodd y Cadeirydd y gallai unrhyw ostyngiadau pellach mewn swyddi fod yn destun pryder.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel yr adnoddau archwilio o ystyried lefel y sicrwydd sydd ei angen, mae'r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2024-2027, yn amodol ar gywiro'r dyddiad yn adran 1.1.