Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
19/08/2024 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Waith gyfredol i'w hystyried a byddai’n ei diweddaru yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod heddiw.
Darparodd Mike Whiteley a Charles Rigby eglurhad ar ohirio Cynllun Archwilio Cymru tan fis Gorffennaf ac adroddiadau sydd i ddod ar gynaliadwyedd ariannol.
Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Sally Ellis a Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Waith, a
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.