Mater - penderfyniadau
Strategic Equality Plan 2024-28
30/10/2024 - Strategic Equality Plan 2024-28
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno amcanion cydraddoldeb drafft a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 y Cyngor cyn eu cyhoeddi.
Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Strategol bod gofyn i’r holl awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011.
Mae’n rhaid ymgysylltu â phobl gyda nodweddion gwarchodedig wrth osod amcanion cydraddoldeb ac wrth baratoi ac adolygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd lleihau anghydraddoldebau a sicrhau darpariaeth canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl gyda nodweddion gwarchodedig.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-28 ynghlwm i’r adroddiad ac mae’n rhaid ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 y Cyngor, cyn ei gyhoeddi.