Mater - penderfyniadau

Emergency Planning Arrangements

16/10/2024 - Emergency Planning Arrangements

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys gwybodaeth ar y digwyddiad yn ymwneud â phibell dd?r wedi byrstio a’r Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng ehangach yn ôl y gofyn gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. 

 

            Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng wybodaeth gefndir ar ffurf a swyddogaeth Cynllunio Rhag Argyfwng yn Sir y Fflint.   Roedd hyn yn cynnwys y cyfrifoldebau statudol o dan ddeddfwriaeth a rôl Prif Weithredwr Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS).

 

Cafwyd cyflwyniad yn cynnwys manylion ar y sleidiau canlynol:-

 

·                Pam ein bod yn cynllunio rhag argyfwng

·                Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004

·                Deddfwriaethau eraill

·                Diffiniad o Argyfwng a Digwyddiadau Mawr

·                Beth sy’n gallu achosi argyfyngau?

·                Beth yw Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru

·                Strwythur Cynllunio Rhag Argyfwng Cyngor Sir y Fflint

·                Argyfyngau Diweddar yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru

·                Strwythur y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth

·                Ymateb i Covid

·                Ôl-drafodaeth

·                Prif risgiau yng Ngogledd Cymru

·                E-ddysgu Aelodau Etholedig

           

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y mater llifogydd y bu’n ymwneud ag ef a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu rhif cyswllt i’r Aelodau ar gyfer unigolyn a fyddai’n gallu arwain yr ysgol ar pa un ai i gau ai peidio. 

 

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at bwynt 1.03 yn yr adroddiad a’r ôl-drafodaeth yn dweud y dylai D?r Cymru gael cynllun uwchgyfeirio ar waith a fyddai wedi rhybuddio’r Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng a fyddai wedi cydlynu’r pwyntiau cyswllt.   Ni wnaeth hyn ddigwydd.   Yn dilyn y dysgu ar hyn a sefydlu’r cynllun prawf, dylai hyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol ei bod wedi gweithio gyda chyfoedion cynllunio rhag argyfwng o fewn D?r Cymru i sicrhau bod y cynllun ar waith er mwyn hysbysu’r tîm yn y dyfodol. Sicrhaodd yr Aelodau os byddent yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiad ac nad oeddent yn sicr pwy i gysylltu â nhw y gallent gysylltu â’i thîm am gyngor. 

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â chyllid, dywedodd y Prif Weithredwr fod gan bob Awdurdod Lleol ei dîm ei hun o’r blaen ac fel rhan o’r dull rhanbarthol i gwtogi a chreu cysondeb cafodd ei dynnu at ei gilydd gyda’r tîm yn delio gyda materion yn fwy effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail canran poblogaeth.  Roedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer costau staffio, hyfforddi ar gyfer staff awdurdod lleol a chynhyrchu adroddiadau rheoli perfformiad ac e-Ddysgu. Roedd y tîm hefyd wedi mynychu chwe chyfarfod pwyllgor craffu ar gyfer pob awdurdod lleol gyda’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.                Roedd y tîm wedi gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gwybodaeth i drafod testunau ar gyfer dysgu ac edrych ar yr ôl-drafodaeth o ymosodiad Arena Manceinion yn benodol o amgylch rôl yr Aelodau.   Roedd llawlyfr yn cael ei gynhyrchu i Aelodau a fyddai’n amlinellu’r cyfrifoldebau i Aelodau, Arweinwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod y negeseuon cywir yn cael eu hanfon i’r cyhoedd.   Unwaith y bydd hyn wedi cael ei adolygu byddai’n cael ei ddosbarthu i Aelodau. Eglurwyd ar ôl pob digwyddiad, hyd yn oed os nad yn Sir y Fflint, bod y dysgu yn cael ei adolygu ac edrychir arno i ddeall sut y byddai hyn yn edrych yng Ngogledd Cymru i sicrhau bod yr awdurdodau yn ymateb yn gywir. 

 

            Cyfeiriodd Ryan McKewon at sylw’r Cynghorydd Parkhurst ar y digwyddiad bws yn dweud ei fod yn ymwneud â phan wnaeth un o’r gweithredwyr dynnu ei wasanaeth yn ôl ac yna ei ailgyflwyno yn fuan wedyn. Eglurodd Arweinydd y Cyngor fod hyn yn ymwneud â darparwr mwyafrif wnaeth gyhoeddi ddydd Gwener nad oeddent yn darparu’r gwasanaeth hwn ar y dydd Llun canlynol.   Roedd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda’r gweithredwr oedd wedi arwain at y gweithredwr yn ailgyflwyno’r ddarpariaeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd McKeown am wybodaeth bellach ar y penderfyniad i gau pob ysgol ar draws Sir y Fflint pan gyflwynwyd y rhybudd oren am eira.   Gofynnodd am eglurhad ar sut wnaed y penderfyniad a gofynnodd a fyddai’n bosibl rhannu cofnodion y cyfarfod hwnnw gyda’r Aelodau.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod y fframwaith gwneud penderfyniadau wedi’i gynnwys o fewn y cyflwyniad.   Roedd Tîm Ymateb Rheoli Argyfwng y Cyngor, yn seiliedig ar wybodaeth fanwl gan y swyddfa dywydd a ffynonellau eraill, wedi dadansoddi’r wybodaeth honno ac yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor wedi gwneud y penderfyniad.   Cadarnhawyd y byddai’r nodiadau o’r cyfarfod hwn yn gallu cael eu rhannu.   Roedd yr Arweinydd yn dweud bod yr argymhelliad wedi’i ddarparu i Benaethiaid i gau ysgolion yn ôl eu hamgylchiadau tywydd unigol, oedd hefyd yn gorfod cynnwys eu staff yn teithio i’r ysgol o ardaloedd eraill ble roedd yna fwy o eira.  

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Healey a oedd yna ddigon o ambiwlansys mewn achos o ddigwyddiad mawr. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol fod gan bob Gwasanaeth Ambiwlans drefniant dwyochrog gyda Gogledd Cymru yn gallu cysylltu â Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Os oedd yna achos yna byddai’r rhanbarth yn galw ar adnoddau o ardaloedd eraill er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn ddigonol.   Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd yn cadarnhau bod y trefniant dwyochrog yn berthnasol i Awdurdodau Tân a’r Heddlu hefyd.

 

            Roedd Arweinydd y Cyngor yn cyfeirio at y penderfyniadau anodd a wnaed yn ystod ymateb Covid ar draws Gogledd Cymru i gyd a arweiniwyd gan yr Heddlu ac roedd yn cynnwys pob Prif Weithredwr ac Arweinydd.  Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at ddigwyddiad mawr a fu’n rhan ohono yn Bollingbrook Heights a dywedodd yn dilyn trafodaeth gyda’r Prif Weithredwr ar beth allai ei wneud i helpu, y cytunwyd y byddai’n derbyn brîff ar beth oedd yn digwydd a gofyn iddo siarad gyda’r wasg.   Roedd yn teimlo fod gan Aelodau rôl gefnogol oherwydd ei brofiad gyda Covid a digwyddiadau eraill.

 

            Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham yn cytuno y dylai Aelodau aros allan o’r ffordd, ond roedd yr Arweinydd wedi amlygu ble gallai Aelodau fod yn ddefnyddiol. Cyfeiriodd at ei yrfa flaenorol fel ymladdwr tân ac roedd yn teimlo mai’r peth pwysicaf yn dilyn digwyddiad oedd yr ôl-drafodaeth.  Dywedodd fod Sir y Fflint yn ffodus i gael Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng mor wych.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod yn cadeirio’r Tîm Gwybodaeth Argyfwng fel rhan o’r Strwythur EMRT oedd wedi edrych ar gyfathrebu a sut roedd Aelodau yn cael eu cefnogi. Roedd y Llawlyfr Aelodau yn y broses o gael ei adolygu a byddai’n cael ei ddosbarthu gynted â phosibl ac anogwyd yr Aelodau i ymgymryd â’r E-ddysgu a ddarperir gan y tîm.   Roedd y Prif Swyddog yn sicrhau’r Pwyllgor fod gan ysgolion Bolisi Rheoli Argyfwng mewn Ysgolion ar waith ac roedd yn amlinellu beth oedd wedi’i gynnwys o fewn y ddogfen hon.   Roedd gan ysgolion gefnogaeth y portffolio pan oeddent yn delio gydag argyfwng.   Cytunwyd bod y Llawlyfr i Aelodau wedi’i adolygu a’r ddolen i E-ddysgu yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau drwy’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar ôl ei gwblhau.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Jason Shallcross ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie. 

             

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod yr adroddiad ynghyd â’r ymateb gan D?r Cymru a gwaith ehangach y gwasanaeth rhanbarthol yn cael ei nodi; a

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn diolch i Helen Kilgannon, Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng am yr adroddiad a’r cyflwyniad a ddarparwyd yn y cyfarfod.