Mater - penderfyniadau
Arrangements with NEWydd Catering & Cleaning Limited
30/10/2024 - Arrangements with NEWydd Catering & Cleaning Limited
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn cyflwyno argymhellion i lunio cytundeb newydd. Nodwyd y prif delerau a’r egwyddorion arfaethedig ar gyfer y cytundeb newydd yn yr adroddiad i’w hystyried a’u cymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi llunio cytundeb newydd gyda Chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf;
(b) Cymeradwyo telerau arfaethedig y cytundeb, gan gynnwys y model ariannol arfaethedig; a
(c) Chaniatáu estyniad byr pellach i’r cytundeb presennol rhwng y Cyngor a Chwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf, os bydd angen, er mwyn gallu cadarnhau’r cytundeb newydd ac unrhyw faterion cysylltiol.