Mater - penderfyniadau

Council Fund Budget 2024/25

15/07/2024 - Council Fund Budget 2024/25

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad yn cynnwys manylion cynigion ychwanegol ar gyfer y portffolio Tai a Chymunedau.

 

            Yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol siomedig, rhoddwyd y dasg i bob portffolio adolygu eu costau sylfaenol er mwyn canfod ffyrdd posib o leihau cyllidebau neu ddileu’r pwysau o ran costau, er mwyn cyfrannu mwy tuag at lenwi’r bwlch sy’n weddill.  Bydd sylwadau’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â’u meysydd penodol yn cael eu casglu ar gyfer yr adroddiadau pennu cyllideb terfynol ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb ar gyfer y Portffolio Tai a Chymunedau, fel y nodir yn yr adroddiad, a gwahoddwyd y pwyllgor i adolygu a gwneud sylwadau ar ddewisiadau’r Portffolio i leihau cyllidebau.

           

            Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett tybed a oedd cymryd arian o’r cronfeydd wrth gefn yn beth synhwyrol i’w wneud o ystyried bod y Swyddogion a’r Aelodau’n gwybod y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf gryn dipyn yn waeth, gan holi tybed a oedd y cynigion yn gwneud pethau’n waeth ar gyfer y dyfodol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod y dewisiadau i fynd i’r afael â digartrefedd wedi cael eu cymeradwyo, ac yr awgrymwyd y dylid clustnodi swm o’r cronfeydd wrth gefn i roi amser i rai o’r dewisiadau hynny ddwyn ffrwyth a mynd i’r afael â’r mater.  Byddai hyn yn fwy o bryder pe na bai atebion wedi’u nodi.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd pa mor hyderus oedd y Swyddogion y byddai’r atebion a nodwyd i fynd i’r afael â digartrefedd yn gweithio.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y gellid prisio rhai o’r dewisiadau a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor, er enghraifft, adnewyddu eiddo er mwyn rhannu tai, ac roedd yn hyderus y byddai’r dewisiadau’n cael effaith, ond roedd y galw’n parhau i gynyddu.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y datblygwyd amcanestyniadau, ond bod nifer o’r bobl a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn bobl a oedd yn ddigartref ar y diwrnod.  Yr unig beth y gellid ei wneud fel gwasanaeth rheoli argyfwng yw ymateb i’r hyn sy’n digwydd o ddydd i ddydd.

 

Cafodd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi dewisiadau’r portffolio Tai a Chymunedau ar gyfer lleihau’r cyllidebau.