Mater - penderfyniadau

Council Fund Budget 2024/25

07/05/2024 - Council Fund Budget 2024/25

                Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai hwn yn cael ei gyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer ystyriaeth.  Roedd diweddariadau rheolaidd ar gyllideb heriol y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi cael eu darparu i Aelodau ers yr haf diwethaf ac fe gyhoeddwyd setliad Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr.  Myfyriodd ar gynnydd siomedig y Cyngor o 2.2% o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1% a’r crynodeb o’r prif benawdau a adroddwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr a oedd yn cynnwys y bwlch o £12.946m a oedd yn weddill. O ganlyniad, gofynnwyd i bob portffolio ail-edrych ar ffyrdd posib i leihau cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu tuag at gau’r bwlch hwnnw.  Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am y cynigion ychwanegol ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r cynigion presennol ar gyfer Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sylw ar y ddwy elfen yr oedd yn rhaid eu hystyried, cyllideb portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, gyda phwynt 1.05 yn yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb.  Diolchodd i’r Uwch Reolwyr am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud yn craffu ar bob llinell o’u cyllidebau gan ddweud nad oedd yn hawdd adnabod arbedion effeithlonrwydd tra’n gwarchod uniondeb y gwasanaeth ac yn galluogi’r portffolio i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Cyfeiriodd at y sgoriau COG ar gyfer y gwasanaethau hyn ac fe dynnodd sylw at y Gwasanaeth Ieuenctid a oedd â sgôr Oren.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor ar gynigion cyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Gostyngiadau i Gyllideb y Portffolio Addysg ac Ieuenctid

 

            Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst ei fod yn credu, oherwydd yr anawsterau ariannol a achoswyd i’r Cyngor gan gyllideb Llywodraeth Cymru, y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o 7.5% er mwyn i Aelodau allu penderfynu pa rai o’r arbedion posibl hynny y gellid eu derbyn neu’u gwrthod ac y byddai gan yr Aelodau ddewis a’r gallu i wneud penderfyniad gwybodus.  Dywedodd bod arbedion posibl o £303,000 wedi cael eu nodi o fewn Portffolio Addysg ac Ieuenctid ac eithrio ysgolion, ond nid oedd hyn yn cyfateb i arbediad o 7.5% a gofynnodd i’r Swyddogion egluro hyn.  Cyfeiriodd hefyd at y sefyllfa derfynol 8 mis ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, lle bu arbedion o £367,000 a gofynnodd sut yr oedd y swm hwn wedi cael ei ganfod oherwydd bod hyn yn fwy na’r arbedion arfaethedig ar gyfer cyllideb 2024/25.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yn cyfateb i 7.5% o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer y Portffolio ond fe esboniodd y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o hyd at 7.5% a bod hwn yn darged uchelgeisiol.  Byddai unrhyw arbedion pellach uwchben y rhai hynny a nodwyd yn peryglu darpariaeth gwasanaethau statudol a gallu’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau statudol.

 

            O ran y £367,000 o arbedion a nodwyd yn ystod y flwyddyn, dywedodd y Prif Swyddog bod y swm hwn wedi deillio o foratoriwm ar leihau neu atal gwariant ym mhob Portffolio.  Un o’r rhesymau dros yr arbedion hyn oedd y ddarpariaeth addysg i blant 3 oed a blynyddoedd cynnar a niferoedd disgyblion yn is na’r disgwyl, a oedd yn adlewyrchu’r gostyngiad yng nghyfraddau geni yn ddiweddar.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Cyngor wedi bod yn chwilio am ostyngiadau cyllidebol cylchol fel ffordd gynaliadwy o leihau gofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Nid oedd y moratoriwm a’r tanwariant dros dro yn gylchol o ran eu natur ond rhoddwyd y rhain ar waith i gynorthwyo â gorwariant yn ystod y flwyddyn.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey os oedd darpariaeth ariannol ar gyfer unrhyw ffoaduriaid a allai ymgartrefu yn y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog bod darpariaeth ariannol ar gael hyd eithaf ei gwybodaeth.  Roedd sawl teulu a oedd wedi ymgartrefu yn Sir y Fflint ac roedd darpariaeth addysg ar gael iddynt.  Roedd hyn yn her i’r Awdurdod Lleol gan na fyddai’n cael ei hysbysu lawer ymlaen llaw o ran pryd y byddai’r Swyddfa Gartref yn eu cyfarwyddo i dderbyn teuluoedd a phlant i Sir y Fflint.  Roedd proses strwythuredig ar waith i reoli hyn ac roedd y Cyngor yn gweithio’n agos gydag ysgolion a oedd wedi cael eu harddangos yn ddiweddar.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jason Shallcross a fyddai modd cael eglurhad pellach ynghylch y gostyngiadau i gyllideb y Gwasanaethau Ieuenctid o amgylch trosglwyddo ased rhai adeiladau.  Roedd yn credu y byddai’r Cyngor yn mynd i gost flynyddol am rentu gofod yn ôl i ddefnyddio o fewn yr adeiladau yn y dyfodol.  Eglurodd y Prif Swyddog mai’r her ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid oedd bod ganddo, dan ei reolaeth, nifer o adeiladau nad oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer clybiau ieuenctid yn unig, ond gan sefydliadau eraill sy’n talu rhent o dan y Polisi Ffioedd a Thaliadau.  Roedd hwn yn fodel drud.  Roedd y Cyngor yn chwilio am rieni / grwpiau cymunedol priodol i feddiannu’r adeiladau fel trosglwyddiad ased a phe bai partneriaeth effeithiol yn cael ei datblygu, fe allai’r Gwasanaeth Ieuenctid rentu’r hyn roedd ei angen yn ôl i greu cyfleoedd ar gyfer arbedion a fyddai’n caniatáu ariannu mwy o weithwyr ieuenctid yn y gymuned i weithio gydag ysgolion a phobl ifanc i’w cefnogi.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, o’r ddau drosglwyddiad ased cyfredol, roedd y trosglwyddiad ym Mhenyffordd yn eithaf datblygedig, felly fe ddylai ddigwydd yn gynt a lleihau’r risg i’r Cyngor o ran cyrraedd y gostyngiad i’r gyllideb, fel y dangosir yn yr adroddiad.

 

Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y pwysau o ran costau ar gyfer Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion a oedd yn cynnwys pwysau sylweddol mewn perthynas â dyfarniadau cyflog ar gyfer athrawon a staff cefnogi, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Cyfeiriwyd at y pwysau costau o amgylch rheoli’r cyfnod sylfaen, darpariaeth ysgol arbennig, y pwysau costau cynyddol ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, Rhyddhad Ardrethi Trosiannol, lluosydd Ardrethi Annomestig a’r Ystafell Ddosbarth Symudol Arbenigol yn yr Ysgol Gynradd Arbenigol.  Darparwyd crynodeb ar y gostyngiadau a’r addasiadau o fewn y Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y gostyngiadau mewn costau ynni, gostyngiad mewn niferoedd disgyblion a chostau’n ymwneud â pherfformiad o amgylch pensiynau.  Eglurwyd, yn dilyn y cynnig i dynnu £3m o’r Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, y byddai hyn dal yn gadael cynnydd o 3.5% i’w cyllidebau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y cynigion cyllideb wedi cael eu cyflwyno a’u trafod mewn cyfarfod gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr Ysgol a oedd yn deall pam yr oedd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey y gallai torri cyllidebau ysgolion o 3% arwain at ddiswyddiadau a gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn cynorthwyo’n ariannol gyda chost diswyddiadau. Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am gost diswyddiadau. Roedd y Cyngor yno i gynghori a chefnogi ysgolion a oedd efallai yn y sefyllfa anodd honno. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie nad oedd o blaid gostyngiad o 3% yng nghyllidebau ysgolion gan awgrymu y byddai gostyngiad o 3% yn narpariaeth addysg i ddisgyblion yn gosod y Cyngor islaw lefel isel dderbyniol.  Dywedodd bod cyllidebau ysgolion wedi cael eu gostwng o 3% y llynedd a gofynnodd, os oedd y Cyngor yn ei ystyried yn dderbyniol i dorri 3% arall, pam nad oedd wedi cynyddu’r ffigwr hwn y llynedd.  Dywedodd hefyd bod llawer iawn o dystiolaeth bod angen i ysgolion berfformio’n well, a bod arnynt angen cyllidebau gwell ac o edrych ar y canlyniadau PISA roedd hyn yn bryderus oherwydd bod Cymru ar y gwaelod ar draws y DU, ac roedd gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod lefelau perfformiad Mathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth yn is na’r hyn a nodwyd yn 2021.

 

O ran Balansau Ysgolion, dywedodd y Cynghorydd Mackie bod y cronfeydd wrth gefn wedi gostwng o £5m a oedd yn golygu bod ysgolion wedi gwario eu dyraniad cyllideb a £5m yn ychwanegol, nid oedd hyn yn wir am bob ysgol ond roedd yn dangos bod ysgolion eisoes yn gweithredu ar lefel isaf annerbyniol.  

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhoi pob ysgol yn yr un gr?p yn annidwyll ac yn annheg ar benaethiaid, athrawon a phobl ifanc a oedd yn gweithio’n galed i gynnal darpariaeth addysg er mwyn i bobl ifanc gael addysg o’r safon orau bosib’.  Roedd yr Aelodau’n ymwybodol o’r problemau eleni gyda’r gyllideb, ac roedd wrthi’n gweithio ar ymateb gyda’r Prif Weithredwr a swyddogion cyllid eraill i Lywodraeth Cymru a fyddai’n gadarn ac yn gryf.  Roedd ysgolion angen cyllideb fwy; roedd y Cyngor angen cyllideb fwy ac roedd Llywodraeth Cymru angen cyllideb fwy.  Gofynnodd i’r Cynghorydd Mackie ble yn union yr oedd yn cynnig eu bod yn cael y cyllid ychwanegol ac a fyddai’r Cynghorydd Mackie yn argymell ychwanegu 3% arall at Dreth y Cyngor a neilltuo’r arian hwnnw ar gyfer ysgolion.  Dywedodd nad oedd unrhyw un eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond roedd gan ysgolion y dewis i wneud cais am ddiffyg trwyddedig, nid oedd hynny’n bosibl i’r Cyngor. Roedd yn rhaid i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst a fyddai’n bosib darparu esboniad o beth yn union oedd y cyllid o £1.124m  o’r enw ‘Cyllideb Ysgolion Nas Dyrannwyd’ yn ymwneud ag o.  Cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei roi i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.   

             

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi dewisiadau’r portffolio Addysg ac Ieuenctid i leihau cyllidebau; a

(b) Nodi’r cynigion ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion.