Mater - penderfyniadau

Corporate Parenting Charter - A Promise for Wales

30/10/2024 - Corporate Parenting Charter - A Promise for Wales

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio Siarter Rhianta Corfforaethol:  ‘Addewid Cymru’. Mae’r Siarter, yn nodi 11 o egwyddorion ar gydraddoldeb, diddymu stigma, gweithio gyda’n gilydd, cefnogaeth gynhwysol, cyflawni uchelgeisiau, meithrin, iechyd da, cartref sefydlog, addysg, ffynnu yn y dyfodol a chefnogaeth ôl-ofal.

 

Mae’r Siarter hefyd yn nodi 9 addewid o ran sut y dylid trin, gwrando a chynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Cyhoeddwyd y Siarter ar sail wirfoddol i ddechrau.  Anogwyd sefydliadau’r sector cyhoeddus i lofnodi addewid i gefnogi’r egwyddorion yn y Siarter.  Roedd yr addewid yn ymrwymo sefydliadau i sicrhau bod popeth y maent yn ei wneud ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal yn cael ei danategu gan rymuso, cydraddoldeb, atal gwahaniaethu, cyfranogi ac atebolrwydd a diogelu. 

 

Y dull a ddisgwylir yw parchu, diogelu a hyrwyddo eu hawliau dynol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd yr addewid yn cynnwys ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i’r Siarter.

 

            Fel Aelod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant, croesawodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a’r adborth i blant sy’n derbyn gofal.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’; a

 

(b)       Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.