Mater - penderfyniadau
Carbon emissions of factory farming in Flintshire
15/05/2024 - Carbon emissions of farming in Flintshire
Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad ar allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â ffermio, a rôl y Cyngor i ddylanwadu ar arferion amaethyddol sy’n gadarnhaol o ran carbon. Darparodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif bwyntiau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose yn ymwneud â chontractau a ffermwyr sy’n denantiaid ac eglurodd bod gwahanol fathau o gontractau a bod cyfle i ddiweddaru telerau’r contract i gefnogi amcanion pan fydd angen eu hadnewyddu.
Ymatebodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd i gwestiwn gan y Cynghorydd Eastwood yn ymwneud â chanran y ffermwyr sy’n denantiaid mewn perthynas â ffermio ar dir preifat, ac eglurodd nad oedd gwybodaeth ar gael ar-lein o ran lleoliad ffermydd preifat ac efallai y gallai Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ddarparu gwybodaeth bellach. Dywedodd y Cynghorydd Eastwood y byddai’r ail argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru (FUW). Eiliodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y cynnig a phan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi ymgysylltiad gyda ffermwyr sy’n denantiaid ar dir Cyngor Sir y Fflint, i ddeall eu harferion a gweithgareddau ffermio i fynd i’r afael ar newid hinsawdd; a
(b) Chefnogi ymgysylltiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), a chwmnïau hysbys, a ffermwyr preifat, i ddeall sut allwn ni ymgysylltu a hyrwyddo arferion gorau ar draws y Sir.