Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 10)
30/10/2024 - Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 10)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac egluro bod yr adroddiad misol yn rhoi trosolwg manwl i Aelodau o sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 10.
Mae’r sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
- Roedd y diffyg gweithredol yn £2.445m sy’n symudiad ffafriol o (£0.057m) o’r ffigwr diffyg o £2.502m a adroddwyd ym Mis 9.
- Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 yn £1.993m (ar ôl ystyried y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o Gyllideb 2024/25).
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.458 miliwn yn uwch na’r gyllideb sy’n symudiad anffafriol o £0.408 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 9.
- Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £2.739 miliwn.
Mae’r rhagolygon economaidd yn parhau i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant eithaf uchel.
Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelir, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion ar waith.
Ym Mis 10, nodwyd £1.714m o wariant gohiriedig ac fe’i dadansoddwyd fesul gwasanaeth a’i nodi yn Atodiad 2 yr adroddiad. Byddai her gadarn ar gyfer y llinellau a’r ymrwymiadau cyllidebol yn parhau am weddill y flwyddyn ariannol, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno mewn adroddiadau dilynol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a
(b) Chefnogi’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.