Mater - penderfyniadau
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9)
19/09/2024 - Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 9)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2023), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £1.803 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Lleihad yng nghyllideb net y rhaglen o (£0.477m) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor);
· Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 wedi’i gymeradwyo ym Mis 6 o (£1.151 miliwn)
· Arbedion a nodwyd ym Mis 9 (£0.175 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £43.441 miliwn (Gweler Tabl 3).
Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2023/24 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.316 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £2.312 miliwn (o warged cyllido Mis 6 o £1.996 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo'r addasiadau cario ymlaen.