Mater - penderfyniadau

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol

12/08/2024 - Internal Audit Progress Report

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad olaf, roedd dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) wedi eu cyhoeddi ar Gyllid Craidd Strategol a Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

Roedd Sally Ellis yn codi pryderon am yr adroddiad Oren Coch ar Wiriadau GDG gan fod hwn yn gyfrifoldeb diogelu pwysig y Cyngor.    Gofynnodd pam nad oedd yr adroddiad wedi’i uwchgyfeirio i Goch a gofynnodd am adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor ar gwblhau camau gweithredu, gan nodi bod hwn yn risg corfforaethol gyda’r potensial o fod yn strategol. 

 

Cafodd ei sylwadau eu hadleisio gan y Cadeirydd oedd yn rhannu pryderon am y dyddiadau cau ar gyfer camau gweithredu. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am sail dyddiadau dyledus ar gyfer adrodd am reoli risg ar Wiriadau GDG a chamau i fynd i’r afael â diffyg gorolwg o’r broses dalu ar Gyllid Craidd Strategol.

 

Yn dilyn pryderon gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar y nifer cynyddol o gamau gweithredu hwyr, roedd y Prif Weithredwr yn cytuno fod hyn yn siomedig.  Tra’n cydnabod natur ansefydlog olrhain camau gweithredu a phroses uwchgyfeirio, rhoddodd sicrwydd am bwysigrwydd cau camau gweithredu i leihau risgiau yn cael ei ailgadarnhau gyda Phrif Swyddogion.    Ar Gyllid Craidd Strategol, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gyda threfniadau contract i sefydliadau trydydd parti sy’n derbyn grantiau yn cael ei rannu. 

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach am frys camau GDG a’r angen am drosolwg corfforaethol, rhoddodd y Prif Weithredwr ymrwymiad personol y byddai’n ceisio sicrwydd ar waith brys ac eglurhad i fynd i’r afael â materion ymlaen llaw cyn i’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol fynychu’r cyfarfod nesaf a darparu diweddariad manwl ar gynnydd yn y cyfarfod nesaf.   

 

Ar gwestiwn pellach, byddai swyddogion yn cysylltu gyda chydweithwyr Addysg ac yn cadarnhau bod ysgolion unigol yn gyfrifol am eu gwiriadau GDG eu hunain. 

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r pryderon a godwyd, eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a’r Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Derbyn adroddiad yn y cyfarfod nesaf yn ymwneud â’r sefyllfa ar y GDG a chamau brys oedd yn ofynnol i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd.