Mater - penderfyniadau
Cod Llywodraethu Corfforaethol
12/08/2024 - Code of Corporate Governance
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried. Dywedodd fod y ddogfen yn parhau heb ei newid yn bennaf ac yn amlygu prif feysydd oedd yn cynnwys y fframwaith a saith egwyddor arfer da a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cod.
Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi siarad am ddolenni gyda dogfennau allweddol fel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a Chynllun y Cyngor.
Pan ofynnwyd gan Sally Ellis am unrhyw ddulliau llywodraethu ychwanegol y gellir eu hadlewyrchu yn y Cod, roedd swyddogion yn rhoi sicrwydd ar gadarnrwydd y Cod, ar ôl bod yn destun adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a’r Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.