Mater - penderfyniadau
Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 a Diweddariad Chwarter 3 2023/24
12/08/2024 - Treasury Management 2024/25 Strategy and Q3 Update 2023/24
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2024/25 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 er gwybodaeth.
Er nad oedd yna unrhyw newidiadau sylweddol i’r strategaeth, cafodd meysydd allweddol eu hamlygu ar gyd-destun economaidd, cyd-destun lleol a pharhad strategaethau benthyg a buddsoddi. Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2023 yn y diweddariad chwarterol ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.
Ar derfynau diffygdalu buddsoddiad, siaradodd y Cadeirydd am y risg yn ymwneud ag hysbysiadau adran 114 ac awgrymodd rai geiriau i roi sicrwydd bod sefyllfa ariannol awdurdodau eraill yn cael ei monitro. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad canol blwyddyn a dywedodd fod buddsoddiadau awdurdod lleol yn amodol ar adolygiad cyson ac arweiniad gan Arlingclose Ltd. Ar gyfraddau llog, rhoddodd amcangyfrif o ganlyniadau cyfradd llog o’i gymharu â rhagamcanion oedd wedi helpu’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd ar gynnal adnoddau i gefnogi swyddogaeth rheoli’r trysorlys, siaradodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am ei rôl i sicrhau trefniadau ariannol digonol ar draws y Cyngor a dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau penodol wedi eu nodi yn y tîm hyd yma fel rhan o broses y gyllideb ar gyfer 2024/25.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 a dogfennau cysylltiedig, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 20 Chwefror 2024; a
(b) Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2023/24.