Mater - penderfyniadau
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 - Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru
11/09/2024 - Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25 – Welsh Local Government Provisional Settlement
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y prif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a rhoi diweddariad ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.
Roedd crynodeb o’r prif benawdau wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac roedd yn cael effaith o gynyddu’r ‘bwlch yn y gyllideb’ i £12.946miliwn. Roedd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir y Fflint yn hynod siomedig ac roedd yn cyflwyno her gynyddol i sefyllfa ariannol sydd eisoes yn anodd iawn yn barod.
Roedd angen paratoi cynigion cyllideb terfynol manwl nawr ar gyfer eu hystyried a’u craffu gan yr Aelodau a byddai cynigion penodol yn cael eu hystyried gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol o fis Chwefror.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y setliad gan Lywodraeth Cymru yn siomedig a oedd wedi arwain at yr angen i adolygu nifer o ragdybiaethau cynllunio a rhagolygon cyn y Cyngor Sir ym mis Chwefror.
Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cadarnhau trefniadau briffio Aelodau o 22 Ionawr a 25 a drefnwyd i roi cyfle i’r Aelodau ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb yn gyffredinol cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod datganiad cadarn wedi cael ei gyflwyno yn dilyn y setliad siomedig. Eglurodd fod cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda’r Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr y noson gynt i amlinellu’r cynigion fyddai’n cael eu gwneud.
PENDERFYNWYD:
Nodi goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau cyn cytuno ar gyfres o argymhellion i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar 20 Chwefror (a fydd yn destun ystyriaeth flaenorol a sylwadau gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu).