Mater - penderfyniadau
Adroddiad Diweddaru ar Werth Cymdeithasol
14/08/2024 - Social Value Update
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Swyddog Gweithredol Strategol adroddiada oedd yn amlinellu data perfformiad ar gyfer chwe mis olaf 2022/23 a chwe mis cyntaf 2023/24, ynghyd â chrynodeb o’r meysydd canolbwyntio o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer 2024/25. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorwyr Sam Swash ac Alasdair Ibbotson, bydd ymateb yn cael ei rannu gyda’r holl Aelodau presennol ar a allai gwaith ar werth cymdeithasol gael ei danseilio gan Barth Buddsoddi Gogledd Ddwyrain Cymru a chymhellion treth. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter cyntaf 2023/24; (b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac (c) Er mwyn alinio adroddiadau perfformiad i flwyddyn ariannol, mae’r Pwyllgor yn cefnogi newid yn yr amserlen adrodd, gyda’r adroddiad perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol yn cael ei gyflwyno ym Mehefin bob blwyddyn. |