Mater - penderfyniadau

Adborth o adolygiad Cymheiriaid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

07/05/2024 - Feedback from Youth Justice Service Peer review

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint  a oedd yn cynnwys y canfyddiadau o Adolygiad Cymheiriaid Cyfiawnder Ieuenctid a gwblhawyd gan y Bartneriaeth Gwella ‘r Sector Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Hydref 2023.  Nid oedd hwn yn archwiliad ond yn adolygiad gan gymheiriaid a ofynnwyd amdano a oedd yn rhan o raglen gwelliant parhaus y gwasanaeth. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog a oedd wedi nodi prif drywyddau ymchwilio gan edrych yn benodol ar gryfder trefniadau arwain a llywodraethu Bwrdd Rheoli Gweithredol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r partneriaethau a oedd wedi’u cynrychioli ar y Bwrdd hwnnw.

 

Roedd y wybodaeth yr oedd y Bwrdd wedi’i chael o ansawdd da ac yn nodi bod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gwneud cynnydd ar ei flaenoriaethau a chynlluniau.  Nodwyd hefyd y dylai rhai partneriaid allanol fod yn gyfrifol am rai o’r problemau strategol gyda rhai blaenoriaeth a gedwir gan yr Awdurdod Lleol.  Roedd yr Adolygiad Cymheiriaid yn nodi ymrwymiad y gwasanaeth a’i Fwrdd Rheoli a Phartneriaid i ddull wedi’i lywio gan drawma a rhoi’r plentyn yn gyntaf a ganmolwyd yn yr adroddiad.  Canmolwyd yr ymarferwyr am y ffordd greadigol yr oeddent yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.  Roedd rhai meysydd i’w gwella yn ymwneud â’r gr?p cyflawni a oedd o dan y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid a’r orddibyniaeth ar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Awdurdod Lleol i lywio rhai o’r cynlluniau gwella.   Darparwyd gwybodaeth ynghylch yr argymhellion a’r ystyriaethau a wnaed mewn ymateb i arsylwadau’r Adolygiad Cymheiriaid a chynnydd y cynlluniau cyflawni a amlygwyd ym mhwyntiau 2.03 a 2.04 yn yr adroddiad. 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn darparu lefel o sicrwydd, ac roedd hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol i roi synnwyr o ble’r oedd y Gwasanaeth ac asesu ei gynlluniau ei hun ar gyfer gwella.  Darparodd wybodaeth gefndir yngl?n â sut yr oedd y gwasanaeth wedi symud i wasanaeth ar wahân ac roedd cael y Prif Weithredwr fel Cadeirydd y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid yn amlygu mor bwysig yr oedd hyn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gina Maddison ei llongyfarchiadau am adroddiad ardderchog.

 

 

Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

               

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion o’r Adolygiad Cymheiriaid.