Mater - penderfyniadau

GCSE and A-Level Results

07/05/2024 - Learner Outcomes - GCSE and A level results 2022/23

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o ganlyniadau TGAU a Lefel-A 2022/23.  Nid oedd wedi bod yn bosibl i gymharu canlyniadau arholiadau gyda blynyddoedd blaenorol oherwydd yr arholiadau amrywiol a oedd wedi cael eu cynnal ers 2019.  Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro ar gyfer cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 ac fe eglurwyd, o ganlyniad i’r pandemig, y cafodd graddau eu cadarnhau gan ganolfannau am gyfnod ac fe wnaed addasiad i ffiniau graddau.  Yn 2019, penderfynodd Llywodraeth Cymru na fyddai data perfformiad yn cael ei rannu ond dywedodd y gallai rhai prif ddangosyddion o ganlyniadau haf 2023 gael eu gwneud yn gyhoeddus ac roedd y wybodaeth hon wedi’i hamlinellu ym mhwynt 1.01 yr adroddiad.  Cyfeiriwyd yr Aelodau at bwyntiau 1.05 a 1.06 yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am ganlyniadau cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 4 yn ôl nodweddion disgyblion ar gyfer haf 2023, a chanlyniadau cyfnod allweddol 4 yn 2022/23 yn erbyn cyfartaledd Cymru. Yna, darparwyd gwybodaeth am y newidiadau arfaethedig ar gyfer dysgwyr Ôl-16 ac roedd pwynt 1.10 yr adroddiad yn amlinellu’r mesurau gwahanol a ddefnyddiwyd wrth fonitro perfformiad. Cyfeiriwyd yr Aelodau at Ganlyniadau Sir y Fflint a Chanlyniadau Cenedlaethol ym mhwynt 1.11, 1.12 ac 1.13 yn yr adroddiad ond amlygwyd nad oedd y data hwn yn cynnwys yr holl brosesau apeliadau a oedd wedi cael eu cynnal. Roedd gwybodaeth am y system addysg ALPS wedi’i chynnwys ym mhwynt 1.14 yr adroddiad.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece y Portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r holl ysgolion ar eu perfformiad yn dilyn Covid a chanmolodd yr ymdrech a’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud.  Dywedodd ei bod yn anodd i fesur gan nad oedd pawb wedi cyflawni’r un cymwysterau ac nid oedd modd eu mesur yn yr un ffordd. Roedd disgyblion yn perfformio’n dda ym maes llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth a oedd yn galluogi iddynt symud ymlaen i addysg uwch.

 

            Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a diolchodd i’r ysgolion, yr athrawon, y rhieni, y llywodraethwyr a phawb a gyfrannodd am yr hyn a gyflawnwyd. Cytunodd gyda’r sylwadau a wnaed mewn perthynas â’r niwed a achoswyd i’r system addysg gan y pandemig a chredai mai’r plant ieuengaf oedd wedi colli fwyaf.  Galwodd y Prif Swyddog ac yntau am gael plant iau i ddychwelyd i’r ysgol yn gyntaf ac fe gytunodd y cyn Weinidog Kirsty Williams. Roedd yn teimlo y byddai plant ifanc iawn wedi’u heffeithio gan hyn am weddill eu hamser ym myd addysg.  Canmolodd y staff am eu gwaith caled i helpu plant i ddal i fyny a chyrraedd y cam y byddent wedi bod arno pe na bai’r pandemig wedi digwydd. 

 

Cynigodd y Cadeirydd argymhelliad arall, ac fe eiliwyd yr argymhelliad hwnnw gan y Cynghorydd Carolyn Preece:-

 

  • Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr holl Benaethiaid Uwchradd i ddiolch iddynt am eu gwaith wrth gefnogi disgyblion yn ystod blwyddyn arholiadau.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniadau arholiadau cyfnodau allweddol 4 a 5 yn 2022/23 ac yn cydnabod gwaith caled ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint wrth gefnogi eu disgyblion yn ystod blwyddyn arholiadau; a

(b)       Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr holl Benaethiaid Uwchradd i ddiolch iddynt am eu gwaith caled wrth gefnogi eu disgyblion yn ystod blwyddyn arholiadau.