Mater - penderfyniadau
Argymhellion y Grwp Tasg a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod
30/01/2024 - Recommendations from the Sheltered Housing Review Task & Finish Group
Dywedodd yr Hwylusydd bod penderfyniad wedi’i wneud gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai ar 8 Mawrth 2023 i sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu Tai Lloches. Roedd hyn yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2023, ar ôl ystyried yr adroddiad Adolygu Tai Lloches.
Roedd y Gr?p wedi cyfarfod dair gwaith i ystyried cylch gwaith y
Gr?p, y Matrics Sgorio a’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Roedd y cyfarfod cyntaf wedi ystyried a nodi’r Cylch Gorchwyl. Roedd yr ail gyfarfod yn nodi’r matrics wrth symud ymlaen gan gynnwys sut y byddai wardiau deuol aelodau yn cael eu dyfarnu os oedd ganddynt farn wahanol. Roedd y cyfarfod olaf a gynhaliwyd wedi ystyried y cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu.
Roedd yr adroddiad yn nodi’r argymhellion a wnaed gan y gr?p, i’w ystyried gan y Pwyllgor gyda’r bwriad o wneud argymhellion i’r Cabinet.
Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester ei fod yn falch gyda gwaith y Gr?p Tasg a Gorffen a sut y byddai’r matrics yn gweithio fel rhan o’r adolygiad.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo argymhellion y Gr?p Tasg a Gorffen i’w gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer ystyriaeth.