Mater - penderfyniadau
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 7)
11/09/2024 - Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 7)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7.
Roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £3.671 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o’r cronfeydd wrth gefn - amcangyfrif o £2.727 miliwn ar hyn o bryd) a oedd yn newid anffafriol o £0.112 miliwn o’r ffigur diffyg a adroddwyd ym Mis 6, ond sydd bellach yn cynnwys amcangyfrif o effaith net Storm Babet.
· Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.664 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog a chan ystyried dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn (£0.100 miliwn) yn is na'r gyllideb a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.031 miliwn) o'r ffigur a adroddwyd ym Mis 6.
· Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.297 miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhagolygon economaidd yn parhau'n heriol gan fod lefelau chwyddiant yn parhau i fod yn uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau, yn dod yn fwyfwy anodd ymdrin â nhw wrth i gyllid y Cyngor fethu â chadw i fyny â maint y pwysau hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24; a
(b) Cymeradwyo trosglwyddo £0.500 miliwn o falans cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ymwneud ag Incwm Treth y Cyngor i'r Gronfa Wrth Gefn at Raid.