Mater - penderfyniadau
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24
11/09/2024 - Treasury Management Mid-Year Review 2023/24
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, yr oedd yr adroddiad wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Tachwedd 2023 pryd yr ymatebodd swyddogion i gwestiynau gan fodloni’r Pwyllgor ac nid oedd unrhyw faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.
Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr 2024 i’w gymeradwyo’n derfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod fersiwn drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2023/24 yn cael ei argymell i'r Cyngor Sir ar 23 Ionawr i'w gymeradwyo'n derfynol.