Mater - penderfyniadau

Confidential urgent item

05/02/2024 - Confidential urgent item

Cynigiwyd ac eiliwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorwyr Antony Wren ac Ian Papworth.  Ar y pwynt hwn, gadawodd holl gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned y cyfarfod ynghyd â’r Cynghorydd Andrew Parkhurst a ddatganodd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ddogfen gyfrinachol a rannwyd gyda’r Pwyllgor, yn crynhoi rhesymau dros wrthod cwyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Roedd yr Ombwdsmon wedi caniatáu i’r ddogfen gael ei rhannu gydag Aelodau’r Pwyllgor er mwyn gofyn iddynt ystyried os oedd angen unrhyw gyfathrebiad o ran dysgu o’r mater.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd consensws, er bod y Pwyllgor Safonau yn parchu trafodaeth wleidyddol a rhyddid i lefaru, rhaid cael cydbwysedd priodol o gydymffurfiad gyda’r Cod Ymddygiad.  Roedd y Pwyllgor yn teimlo ei bod yn bwysig annog holl Gynghorwyr i drin ei gilydd gyda pharch a chwrteisi, gan gynnwys swyddogion sy’n cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Siambr, ac i adlewyrchu ar y ffordd y gall eu geiriau a gweithredoedd gael eu derbyn, er mwyn sicrhau nad yw hyder yn y Cyngor yn cael ei danseilio.  Er mwyn cefnogi Aelodau yn eu rôl, byddai gwybodaeth ar y rhaglen hyfforddi a datblygu yn cael ei rhannu.

 

Cytunwyd y dylai cyfatebiaeth i holl Aelodau adlewyrchu barn y Pwyllgor ar yr achos, ynghyd â phryderon am adborth o’r cyfarfod Cyngor Sir diweddar, fel y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at holl Gynghorwyr Sir (copïwyd i’r Pwyllgor Safonau) i gyfleu pryderon y Pwyllgor yn dilyn ystyriaeth o adborth o ymweliad diweddar i gyfarfod Cyngor Sir a chanfyddiadau achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

 

(b)       Unwaith i ymweliadau cyfarfodydd Cyngor Sir eu cwblhau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24, byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r sefyllfa i asesu os oes angen ymweliadau pellach.