Mater - penderfyniadau

Cwestiynau

07/05/2024 - Cwestiynau

Dywedodd y Cadeirydd bod cwestiwn wedi dod i law gan y Cynghorydd Parkhurst.

 

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Gerddi Coffa’r Wyddgrug

 

A oes modd i Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd egluro pam ei fod wedi rhoi gwybod i’r Cabinet ar 17.10.23 Fod Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi gwneud cais i wahardd c?n o Erddi Coffa’r Wyddgrug, a pham y dywedwyd yr un peth wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd ar 12.9.23 pan oedd Cyngor Tref yr Wyddgrug, mewn gwirionedd, wedi gofyn am ddiwygio’r Gorchymyn i nodi y dylid “cadw c?n ar dennyn ar bob adeg”, ac o ystyried y wybodaeth anghywir yma i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet, a fyddai r?an yn cytuno y dylid ailystyried y penderfyniad i wahardd c?n o’r Gerddi hyn?   

 

Ymatebodd y Cynghorydd Chris Bithell i’r Cwestiwn fel hyn:-

 

“Yn y ddau gyfarfod y cyfeirir atynt, sef Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 12 Medi 2023 a’r cyfarfod Cabinet ar 17 Hydref 2023, cyflwynwyd adroddiad ar Adnewyddu Gorchmynion Mannau Cyhoeddus gan y Prif Swyddog Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd. Yn ôl y drefn arferol, yr Aelod Cabinet at gyfer y portffolio hwnnw sydd fel arfer yn cyflwyno’r adroddiad ac wrth wneud hynny bydd yn dyfynnu ac yn cyfeirio at agweddau a manylion yn yr adroddiad, a dyna wnes i.

 

 

Roedd agweddau o’r adroddiad ac, yn wir, y modd roedd yr ymgynghoriad wedi’i wneud wedi bod yn destun ymholiadau, sylwadau, cwynion a honiadau. Roedd y rhain i gyd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ar hyn o bryd yn rhan o weithdrefn Gwyno ffurfiol y Cyngor. O ystyried hynny, rwy’n meddwl y byddai’n annoeth ac yn amhriodol gwneud rhagor o sylwadau nes mae’r weithdrefn honno wedi’i chwblhau.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd Pankhurst pam roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi clywed gwybodaeth gamarweiniol ac os oedd camgymeriad wedi’i wneud, pam nad oedd hynny wedi’i gydnabod. Roedd y mater hwn yn achosi pryder i bobl oedrannus. Pan ofynnodd Cyngor Tref yr Wyddgrug i g?n gael eu cadw ar dennyn, pam oedd pwyllgorau’n clywed bod y Cyngor Tref eisiau i g?n gael eu gwahardd. Cyfeiriodd at sylwadau a wnaed bod gwaith ymgynghori wedi bod â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ond ar ôl cysylltu â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, dywedodd nad oedd neb wedi ymgynghori ag o. Gofynnodd hefyd pam roedd yr Asesiad Cydraddoldeb o 2023 yn edrych fel un wedi’i dorri a’i ludo, gyda gwallau teipio o 2020, a dywedodd y byddai’n gwerthfawrogi ymateb gan y Cynghorydd Bithell.

Ceisiodd y Cynghorydd Attridge eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) gan ofyn, os oedd y Cyngor yn gweithio ar weithdrefn gwyno ffurfiol ar hyn o bryd, a fyddai’n annoeth trafod rhagor am hyn nes byddai canlyniad y g?yn ffurfiol honno’n hysbys. Ei bryder oedd bod hwn yn fater difrifol os oedd y Cabinet wedi camarwain Pwyllgor Craffu ac aelodau’r cyhoedd.

 

Yn gyntaf, atgoffodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr Aelodau ynghylch y broses ar gyfer cwestiynau, a bod gan holwr y cwestiwn hawl i ofyn un cwestiwn ategol, un ai’n codi’n uniongyrchol o’r cwestiwn gwreiddiol neu o’r ateb a ddarparwyd. Roedd y Cynghorydd Bithell wedi cadarnhau yn ei ateb i’r cwestiwn gwreiddiol fod cwynion wedi’u gwneud a dyna pam roedd yn credu bod y Cynghorydd Pankhurst wedi codi’r mater hwn. Roedd yn deall pam roedd y Cynghorydd Attridge wedi gofyn y cwestiwn a dywedodd nad oedd yn briodol ei drafod. Roedd yr un cwynwyr a oedd wedi cysylltu â’r Cynghorydd Pankhurst hefyd wedi gwneud cwynion ffurfiol drwy weithdrefn Gwyno Gorfforaethol y Cyngor ac wedi gwneud nifer o honiadau, ac roedd ymchwiliad i’r rheiny ar fynd ar hyn o bryd. Nes roedd yn hysbys a oeddent yn ffeithiol gywir, nid oedd yn ddoeth ateb y cwestiwn ar hyn o bryd. Fe wnaeth y Cyngor, wrth weithredu drwy ei Gabinet gymeradwyo Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ei gyfarfod ym mis Medi ac roedd y Gorchmynion hynny mewn grym ac yn Orchmynion a wnaed yn ddilys nes byddai Llys ag awdurdodaeth gymwys yn eu dirymu. Gallai’r Cyngor, pe bai’n dymuno, edrych eto i weld a ddylai’r Gorchmynion hynny fod wedi’u gwneud neu a ddylid eu newid a byddai hwnnw’n benderfyniad i’w wneud pan fyddai’r cwynion wedi’u hystyried a’r holl Gynghorwyr wedi cael gwybod am y canlyniad. Cadarnhaodd fod y Cynghorydd Pankhurst wedi cael ymateb dros dro, ond maes o law byddai ymateb yn cael ei ddarparu iddo fo a’i breswylwyr a phreswylwyr eraill mewn wardiau eraill yn dweud beth roedd y Cyngor yn bwriadu ei wneud o ganlyniad i’r cwynion hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cwestiynau a’r ymatebion ysgrifenedig a llafar.