Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
18/03/2024 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen waith i’w hystyried. Yna rhoddodd drosolwg o'r eitemau rheolaidd a oedd yn gynwysedig ynghyd â'r eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd i ddod ym mis Ionawr, mis Mawrth a mis Mehefin.
Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Arnold Woolley ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Waith ddrafft a chymeradwyo / newid yn ôl yr angen.
(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.