Mater - penderfyniadau

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 - 2026/27

09/01/2024 - Capital Strategy including Prudential Indicators 2024/25 - 2026/27

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 - 2026/27.

 

Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, bydd ychydig o newid i egluro y gellid defnyddio derbyniadau cyfalaf i ariannu’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw yn uniongyrchol.

 

Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25– 2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf

 

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf)