Mater - penderfyniadau

Pwysau Digartrefedd

30/01/2024 - Homelessness Budget Pressure - Options Paper

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal adroddiad i amlinellu dewisiadau a oedd wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd. 

 

Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau

llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’.  Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys.  Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb.  Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, yn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb digartrefedd

a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.

 

Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau

llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd, fel a ganlyn:-

 

  1. Cyflymu adolygiad o dai gwarchod – yn cynnwys llety i grwpiau dros 55 oed a grwpiau llai i rai 50 oed a h?n a’r posibilrwydd o ostwng y trothwy oedran.

 

  1. Cynnydd o ran llety i bobl ddigartref ac adolygu model tebyg i ganolbwynt Queensferry.

 

  1. Newidiadau i bolisi dyrannu – newidiadau Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) i eiddo mynediad sengl.  (Mae cafeat ar y dull hwn oherwydd newidiadau mawr sydd i ddod i ddeddfwriaeth).

 

  1. Defnydd amgen o stoc CSFf – cymryd mwy o Dai o’r CRT i’w defnyddio fel llety dros dro a chreu cyfleoedd rhannu t? ar gyfer eiddo deiliadaeth sengl.

 

  1. Adolygu cynigion i landlordiaid preifat – cynyddu faint o arian gaiff landlordiaid am brydlesu, a/neu gynnig mwy o gymhellion.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a darparu adborth am bob un o’r dewisiadau, fel a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dewis 1

 

            Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 1, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer cyflymu’r adolygiad o dai gwarchod.

 

Codwyd nifer o bryderon am yr effaith bosibl y gallai lleihau’r trothwy oedran ei chael ar bobl h?n sy’n byw mewn llety gwarchod.  Cafwyd sicrwydd gan Swyddogion a’r Aelod Cabinet na fyddai dull cyffredinol yn cael ei ddilyn ac nad oeddent yn cynnig gosod yr holl eiddo sydd ar gael i bobl ifanc, ac unigolion heriol o bosibl, ochr yn ochr â thenantiaid h?n.  Roedd yr Aelod Cabinet yn gobeithio bod yr adroddiad a’i sylwadau yn rhoi sicrwydd y byddai cynigion yn cael eu trin mewn modd sensitif.

 

Gwnaed sylwadau am yr angen i ddechrau’r Adolygiad Tai Gwarchod cyn gynted ag sy’n bosibl hefyd, a dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor y byddai adroddiad am waith y Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr i gael cefnogaeth.

 

Ymatebodd Swyddogion a’r Aelod Cabinet i nifer o gwestiynau am y datgysylltiad rhwng anghenion pobl sy’n aros am eiddo a’r eiddo sydd ar gael ar draws y Sir. 

 

Dewis 2

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 2, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer cynyddu nifer yr eiddo i bobl ddigartref.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease fod Dewis 2a fel pe bai’n fwy cyraeddadwy a soniodd am yr angen i ganfod datrysiadau cyflym i broblem fwy hirdymor. 

 

Cafwyd sylwadau am yr angen i nodi safleoedd er mwyn datblygu’r dewisiadau hyn yn fuan.  Rhoddodd Swyddogion sicrwydd fod y tîm strategaeth yn gweithio i nodi safleoedd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dave Evans y dylid datblygu dewis 2a a 2b.

 

Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelodau, siaradodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet o blaid y sylwadau am fod â chanolbwyntiau digartrefedd ar draws y Sir, sef rhywbeth a drafodwyd yn y Cabinet Anffurfiol a’r Cabinet.  Roedd digartrefedd yn cael ei brofi ar draws pob cymuned ar draws Sir y Fflint a dywedodd yr Aelod Cabinet fod angen darpariaeth i fynd i’r afael â hyn er mwyn i bobl gael mynediad at waith ac er mwyn i deuluoedd barhau i gael mynediad at ysgolion.

 

Dewis 3

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y cynigion dan ddewis 3, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer gwneud newidiadau i’r polisi dyrannu. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd Dave Evans ei gefnogaeth ar gyfer dewis 3a.

 

Ymatebodd y Swyddogion i sylwadau a wnaed am yr effaith ar iechyd meddwl pobl pan fyddant yn cael eu hannog i aros mewn eiddo yr oeddent yn cael eu troi allan ohono, gan sôn am y daith annifyr o ddigartrefedd y gellid ei phrofi a’r gefnogaeth a ddarperir iddynt.

 

Soniodd y Cadeirydd am benderfyniad a wnaed sawl blwyddyn yn ôl a olygodd oedi ar bob dyraniad er mwyn caniatáu i’r eiddo gael eu darparu i bobl oedd yn ddigartref.  Awgrymodd fod swyddogion yn edrych ar sut cafodd hyn ei wneud o’r blaen. 

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr effaith allai’r dewisiadau ei chael ar y bobl sydd ar restr aros Band B a oedd wedi bod yn aros am eiddo ers sawl blwyddyn. 

 

Dewis 4

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y cynigion dan ddewis 4, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer gwneud defnydd amgen o stoc CSFf.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Evans at nifer yr eiddo gwag 4 ystafell wely a gofynnodd a ellid defnyddio’r eiddo hynny i greu eiddo rhannu t? i bobl sengl.  Dywedodd Swyddogion y byddent yn targedu eiddo 2 a 3 ystafell wely a byddai’r model sy’n cael ei ddatblygu yn benodol ar gyfer 2 o bobl yn rhannu.  Ar gyfer 3 neu fwy o bobl yn rhannu, byddai hyn yn golygu bod angen cynllunio, gorfodi a thrwyddedu oherwydd byddai’n cael ei gyfrif fel T? Amlfeddiannaeth bach.

 

Dewis 5

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 5, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer adolygu’r cynnig i landlordiaid preifat. 

 

Soniodd y Cynghorydd Dave Evans fod nifer y landlordiaid yn lleihau oherwydd yr anawsterau sy’n cael eu hwynebu bellach wrth fod yn landlord, ac felly nid oedd yn teimlo y byddai dewis 5a yn helpu.  Cyfeiriodd hefyd at gynllun a fu trwy’r Tîm Adfywio nifer o flynyddoedd yn ôl yn ei ward, lle’r oedd 2 eiddo anaddas wedi’u gwella ac wedi parhau i gael eu gosod.  Eglurodd Swyddogion y byddai’r dewisiadau yn cynorthwyo i alinio eiddo’r Cyngor â nifer o ffrydiau gwaith. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am eu sylwadau a chwestiynau.  Gofynnodd a ellid darparu gwybodaeth am y galw am eiddo 1 ystafell wely ar draws anghenion cyffredinol a thai gwarchod hefyd.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y byddai’n darparu’r wybodaeth hon i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu darparu i’r Cabinet cyn eu cyfarfod i ystyried y dewisiadau ar 21 Tachwedd, 2023.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran digartrefedd; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewisiadau a amlinellwyd yn Atodiad 1 i gynyddu cyflenwad a lliniaru gorwariant pellach ar y gyllideb digartrefedd.