Mater - penderfyniadau
Residential Mobile Homes
18/03/2024 - Residential Mobile Homes
Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes yr adroddiad a oedd yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a basiwyd yn y Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2023 mewn perthynas â thrwyddedu cartrefi symudol preswyl, gyda'r penderfyniadau yn cael eu hamlygu ym mhwynt 1.01 o'r adroddiad. Rhoddwyd trosolwg o ddiben a chraffu ceisiadau trwyddedu a oedd yn caniatáu i drigolion y safleoedd gyflwyno sylwadau. Ar hyn o bryd y pwyllgor trwyddedu oedd yn gyfrifol am ddirprwyo, ond yn ymarferol roedd y rhain wedi'u dirprwyo i swyddogion. Trafodwyd hyn yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu ar 4 Hydref a phenderfynwyd y dylai unrhyw benderfyniadau ynghylch ceisiadau yn y dyfodol gael eu gwneud gan y pwyllgor trwyddedu llawn. Roedd hwn yn argymhelliad yr oedd y Pwyllgor Trwyddedu yn dymuno ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ddirprwyo i is-bwyllgor neu i swyddogion a chytunwyd i ystyried pob cais o dan y broses hon. Gan fod hwn yn newid sylweddol roedd hyfforddiant gorfodol arbenigol wedi'i drefnu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu a oedd bellach wedi'i agor i'r holl Aelodau petaent yn dymuno mynychu a byddai hyn yn darparu dirprwyon i'r Pwyllgor Trwyddedu pe bai angen.
Yna esboniodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes y byddai angen paratoi Polisi ar safonau ymgynghori gofynnol ar gyfer aelodau ward a thrigolion ac y byddai angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn maes o law. Darparwyd gwybodaeth am y penderfyniadau allweddol ar gyfer ceisiadau a oedd yn cynnwys natur y penderfyniad a'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod arfaethedig a roddwyd i drigolion ar y safleoedd ac aelodau wardiau. Ni chyfeiriwyd at y cyfnod ymgynghori yn neddfwriaeth 2013 ond yr hyn y cyfeiriwyd ato oedd y cyfnod yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod wneud y penderfyniad os nad oedd y ddwy ochr yn cytuno o fewn amserlen o ddau fis. Wrth gyflwyno'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod, teimlwyd bod hon yn amserlen gyraeddadwy a fyddai'n galluogi'r adroddiadau angenrheidiol a'r dogfennau ategol i gynorthwyo'r aelodau i fod yn barod. I gloi, croesawodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes arweiniad y Pwyllgor ar hyn ac anogodd unrhyw aelodau a hoffai fynychu’r hyfforddiant i wneud hynny.
Cadarnhaodd y Cynghorwyr Antony Wren, Ted Palmer ac Ian Hodge y byddai ganddynt ddiddordeb mewn mynychu'r hyfforddiant.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes fod yr hyfforddiant ar-lein ar fore 4 Rhagfyr 2023.
Adroddodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson mai ef oedd eilydd y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i fod yn dymuno cynnig argymhellion 1 a 3 yn yr adroddiad. Yna roedd yn dymuno gwneud mân ddiwygiad i argymhelliad 2.
“I’r Aelodau gefnogi cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod ar gyfer Aelodau Ward a thrigolion y safleoedd hyn a bod yr holl hysbysiadau yn cael eu hanfon trwy lythyr at bob eiddo a restrwyd ar gyfer Treth y Cyngor ar y safleoedd a bod y rhain yn amodol ar y penderfyniadau trwyddedu”.
Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson fod nifer anghymesur o drigolion ar y safleoedd hyn wedi'u heithrio’n ddigidol o’i gymharu â thrigolion eraill yn y sir. Defnyddiwyd dulliau eraill mewn ceisiadau cynllunio megis postio biliau ac ati ond efallai na fydd y rhain yn briodol yn yr achos hwn. Cyfeiriodd at yr Amodau Trwyddedu yr oedd angen eu harddangos a theimlai yn hytrach na dibynnu ar berchnogion safleoedd y byddai'n well postio'r rhain i'r holl breswylwyr.
Gan ymateb i gwestiynau ar y goblygiadau o ran adnoddau a phenodi Cwnsler gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cyfeiriodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes at yr ail argymhelliad gan ddweud bod hyn eisoes wedi'i ystyried. O ran y pwynt cyngor cyfreithiol, cadarnhaodd fod llawer o brofiad cyfreithiol yn y Cyngor ond y byddai mwy o faich ar wasanaethau cyfreithiol i fynychu ochr yn ochr â swyddog a oedd yn arferiad. Byddai hwn yr un trefniant gyda'r Pwyllgor Trwyddedu yn gwneud y penderfyniad hwnnw gyda chynghorydd cyfreithiol yn bresennol, ond gyda chynnydd yn nifer y cyfarfodydd Pwyllgor a’r angen am y cymorth cyfreithiol hwnnw. Pan glywyd achosion mwy cymhleth, cynghorwyd y dylai'r Cyngor gael cyngor cyfreithiol allanol ond ni fyddai angen hyn ar gyfer pob cais. Cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at y Cwnsler Arbenigol a gofynnodd a oedd hwn eisoes wedi'i gomisiynu. Cadarnhawyd mai dyma oedd yr achos ar gyfer ceisiadau cyfredol, fodd bynnag nid oedd trefniadau cymorth cyfreithiol yn y dyfodol wedi'u cadarnhau eto. Yna gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am eglurhad nad oedd hyn yn oblygiad newydd o ran adnoddau.
Eglurodd y Prif Swyddog fod yr amser yn eistedd ar y Pwyllgor ar hyn o bryd yn rhoi baich ychwanegol ar y Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn dilyn sgyrsiau gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol teimlai nad oedd ganddynt y gallu i gefnogi hyn ar hyn o bryd.
Cynigiwyd yr argymhellion, fel y'u diwygiwyd, gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst
PENDERFYNWYD:
(a) Argymell i'r Cyngor y bydd pob cais a wneir mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor Trwyddedu.
(b) I'r Aelodau gefnogi cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod ar gyfer Aelodau Ward a thrigolion y safleoedd hynny sy'n destun y penderfyniadau trwyddedu.
(c) Nodi y bydd hyfforddiant Cartrefi Symudol Preswyl ar gael i bob Aelod.