Mater - penderfyniadau

FUL/000254/22 - Full application - Proposed erection of structure together with formation of access ( Partly Retrospective) at Dee Bank Industrial Estate, Whelston, Bagillt

16/10/2024 - FUL/000254/22 - A - Full application - Retention of building and associated use of site for operation of a brewery (partly retrospective) at Dee Bank Industrial Estate, Whelston, Bagillt

Argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ac yn y Sylwadau Hwyr, a gan gynnwys amod(au) ychwanegol fel a ganlyn:

 

9.       Ni cheir datblygu ymhellach nes y bydd adroddiad/ymchwiliad peirianyddol ac asesiad risg wedi’u cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â sadrwydd/cadernid strwythurol y tir/y lan ar hyd ffin ogleddol/ogledd-orllewinol safle’r cais, yn ychwanegol at unrhyw asesiad a ddarparwyd gyda’r cais cynllunio, a bod y rheiny wedi’u cymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod hwnnw.  Rhaid i’r ymchwiliad a’r asesiad risg gael eu cynnal gan unigolion cymwys.

 

10.      Os canfyddir bod y tir/y lan sy’n destun yr adroddiad/ymchwiliad peirianyddol ac asesiad risg sy’n ofynnol dan Amod rhif 9 yn annigonol o ran sadrwydd/cadernid strwythurol, rhaid cyflwyno manylion strwythur cynnal i liniaru unrhyw broblemau o’r fath i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a rhaid i’r Awdurdod hwnnw ei gymeradwyo’n ysgrifenedig.  Bydd unrhyw strwythur cynnal a gymeradwyir yn cael ei gadw a’i gynnal yn barhaol.