Mater - penderfyniadau

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27

18/04/2024 - Capital Strategy including Prudential Indicators 2024/25 – 2026/27

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 - 2026/27 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn egluro pam fod angen y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob adran.

 

Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), yr oedd yn rhaid i Awdurdodau bennu ystod o ddangosyddion darbodus.   Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25 – 2026/27.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni chodwyd unrhyw broblemau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir; a

 

(b)       Chymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor Sir:

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25 – 2026/27 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 y Strategaeth Gyfalaf.

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y terfyniadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer yr effaith allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).