Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred

31/01/2025 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith ac Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

Gan ymateb i gais am eitemau i gael eu cynnwys ar y Rhaglen Waith am daliadau diswyddo, ymddiswyddiadau penaethiaid a  hyblygrwydd y broses gosod cyllideb, awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cynghorydd Mackie yn anfon e-bost ati gan nodi pa wybodaeth benodol yr oedd ei angen.   Byddai’r adroddiad Balansau Ysgolion a fyddai’n cael ei gyflwyno ym mis Medi yn cynnwys gwybodaeth am lefel ailstrwythuro gweithlu mewn ysgolion.   Gallai datganiad sefyllfa glir am ddiswyddiadau athrawon gael ei ddarparu ar yr un pryd.

 

Wrth ymateb i gais yngl?n â dulliau o gefnogi ysgolion drwy heriau cyllidebol, cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu adroddiad oedd yn amlinellu’r gefnogaeth yr oedd y Portffolio yn ei roi i ysgolion yngl?n â chyllidebau, adnoddau dynol a lles pennaeth tra’n trafod y prosesau hyn.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am y risg posibl i’r Awdurdod petai TAW yn cael ei roi ar ffioedd ysgolion preifat, dywedodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) bod adolygiad o gapasiti darpariaeth arbenigol o amgylch y Sir yn cael ei gynnal.   Roedd gwybodaeth hefyd yn cael ei gasglu am bwysau ariannol yr oedd ysgolion yn eu hwynebu o ran cefnogi plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Fe awgrymwyd bod adroddiad oedd yn ymwneud â’r materion yma’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn nhymor yr hydref.  

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog mai un o’r dulliau a ddefnyddir i fodloni’r angen hwnnw oedd darpariaeth Y Tu Allan i’r Sir.   Byddai gweithdy’n cael ei drefnu i Aelodau yn nhymor yr hydref a fyddai’n cynnwys gwybodaeth yngl?n â sut roedd y ddarpariaeth honno’n cael ei rheoli.

 

Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Parkhurst at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a gofynnodd am ddiweddariad o ran a fyddai trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng yn cael eu dosbarthu i Aelodau.   Cytunodd yr Hwylusydd i wirio hyn a’i ddosbarthu i Aelodau.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.