Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred

16/10/2024 - Forward Work Programme and Action Tracking

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Byddai’r Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru i gynnwys dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad Olrhain Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y camau ar recriwtio a chadw staff wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Hefyd, amlygwyd bod Adolygiad Ardal Saltney a Brychdyn a chamau Theatr Clwyd wedi eu cynnwys o dan eitemau i’w cynnwys.   Roedd y llythyr gan y Cadeirydd yn diolch i Benaethiaid wedi cael ei ddosbarthu drwy e-bost a chadarnhawyd bod y camau oedd yn ymwneud â Chynllun y Cyngor wedi cael eu cwblhau gyda’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn dosbarthu e-bost i holl staff yn diolch iddynt am eu gwaith caled i gyflawni’r prif dargedau blaenoriaeth.   Roedd yr holl gamau bellach wedi eu cwblhau. 

 

            Roedd y Cadeirydd wedi gofyn i adroddiad gan NEWydd mewn perthynas â Phrydau Ysgol gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith.  Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Dave Mackie i adborth gan ysgolion/disgyblion gael ei gynnwys yn yr adroddiad, roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod Steve Jones a Claire Sinnott yn cydweithio ar adroddiad i nodi disgyblion yn ymgysylltu â NEWydd o amgylch Prydau Ysgol. 

 

            Roedd y Cynghorydd Mackie yn gofyn i adroddiad ar Wella Ysgol mewn perthynas â GwE, yn benodol o amgylch cyllido’r sefydliad a chynigion wrth symud ymlaen gael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith. Roedd y Prif Swyddog yn croesawu hyn ac yn awgrymu bod adroddiad yn manylu goblygiadau’r newidiadau, effeithiau ariannol a disgwyliadau ar yr Awdurdodau Lleol i wneud trefniadau gwahanol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ym mis Mai. 

 

            Roedd y Prif Swyddog yn awgrymu bod adroddiad ar Arolygiaeth y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Waith ar gyfer cyfarfod mis Medi. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a fyddai’r adroddiad i’r Cydbwyllgor Craffu ym mis Mehefin ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnwys gwybodaeth ar ddarparu addysg i blant gydag Awtistiaeth. Dywedodd y Prif Swyddog o fewn yr adroddiad y byddai yna gyfeiriad penodol at addysg arbenigol a beth oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r galw cynyddol hwn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Parkhurst ar yr adroddiad Arian Wrth Gefn Ysgolion, dywedodd y Prif Swyddog bod yn rhaid i ysgolion gyflwyno eu cyllidebau i’r Cyngor erbyn 30 Mehefin a bod yna nifer o brosesau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd o amgylch ailstrwythuro’r gweithlu.   Teimlwyd na fyddai hwn yn barod cyn gwyliau’r haf ac mai mis Medi oedd yr amser gorau i gyflwyno hwn i’r Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.