Mater - penderfyniadau
Bryn y Beili, Yr Wyddgrug
14/02/2025 - Bailey Hill Mold
Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad diweddaru’n amlinellu’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) bod yr adroddiad yn nodi diwedd cyfnod datblygu ac yn amlinellu’r gwaith a oedd wedi cael ei gynnal ar y man gwyrdd hwn sy’n eiddo i’r Cyngor. Darparwyd gwybodaeth ar y bartneriaeth rhwng y Cyngor Sir, Cyngor Tref Yr Wyddgrug, Gr?p Cyfeillion Bryn y Beili ac Aura. Darparodd bwynt 1.04 yn yr adroddiad wybodaeth ar y cyllid allanol o £1.7 miliwn a dderbyniwyd gan y prosiect, gyda phwynt 1.05 yn amlygu’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud. Roedd rhaglen ddigwyddiadau lwyddiannus hefyd wedi cael ei chynnal gydag ysgolion a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod y safle yn cael ei ddefnyddio. Eglurwyd bod Cadw ac archeolegwyr wedi cael eu cynnwys drwy gydol y gwaith hwn a gafodd ei oedi oherwydd Covid, yn anffodus. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr eitemau archeolegol a’r gweddillion dynol a ganfuwyd ynghyd â thystiolaeth o waliau’r castell, a oedd wedi oedi’r prosiect ac wedi effeithio ar ei ddyluniad, ac fe eglurwyd sut yr oedd y rhain yn cael eu rheoli a’u cefnogi. Roedd yr ardal chwarae wedi cael ei hadleoli i’r beili allanol oherwydd yr eitemau a ganfuwyd ar y safle ac roedd y gwaith i fod i gael ei gwblhau’n fuan. Wrth symud ymlaen, roedd pwyslais ar gynnal y safle a gwella bioamrywiaeth i gynnal y statws gwyrdd ar gyfer y safle a darparwyd eglurhad o ran sut yr oedd hyn yn cael ei reoli. Rhoddwyd trosolwg o’r sefydliadau amrywiol sy’n defnyddio’r safle a’r gwaith cymunedol sy’n ei gefnogi.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ymweld â’r safle gan nodi ei fod yn brydferth ac yn ardal eithriadol o fewn y dref.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Coggins ar y goblygiadau o ran adnoddau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd yn gallu darparu’r wybodaeth honno gan nad oedd y ganolfan wedi bod yn weithredol am flwyddyn gyfan. Roedd wedi’i ariannu’n rhannol gan y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr ond byddai gwell syniad ar gael ym mis Mawrth eleni gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers ar y goblygiadau o ran adnoddau ym mhwynt 2.01, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod ffigyrau rhan o’r flwyddyn wedi’u cael gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug a oedd yn amlygu diffyg. Roedd yn anodd codi cyfradd incwm uwch ar gyfer yr adeilad bach a byddai gwaith yn cael ei wneud gyda’r Cyngor Tref i gadw’r diffygion cyn lleied â phosibl wrth ddarparu’r adnodd cymunedol hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â statws y Faner Werdd gan y Cynghorydd Mike Peers, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hwn yn statws marc barcud ar gyfer mannau gwyrdd, parciau yn bennaf. Eglurwyd bod y safle wedi cyflawni tair o’r 7 mlynedd, gyda phedair arall i fynd. Roedd y meini prawf yn cynnwys rheoli’r parc yn effeithiol o ran ysbwriel a baw c?n ac yn cynnwys rheoli diogelwch ac ymgysylltu â’r gymuned. Roedd yr adborth a dderbyniwyd wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor unwaith yr oedd ffigyrau’r flwyddyn lawn ar gael. Roedd y cynnydd mewn biliau ynni hefyd wedi effeithio ar hyn. Anogodd yr aelodau i ymweld â’r cyfleuster a’i logi oherwydd ei fod yn brydferth iawn.
Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Lloyd, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yn gyntaf at hygyrchedd gan ddweud bod y safle wedi cael ei ail ddylunio gymaint â phosibl. Roedd mynedfeydd â rampiau wedi cael eu gosod ger y canol a’r beilïau mewnol ac allanol, ond nid at y mwnt yr oedd y castell wedi’i leoli arno ac nid oedd yn hygyrch oherwydd y grisiau. O ran y costau, mae’r safle’n cynhyrchu incwm o’r llety preswyl ac incwm bach gan y grwpiau sy’n llogi’r gofod ar y llawr gwaelod.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar unrhyw ddiffyg yn cael ei gynnwys yng nghyllideb yr Amgylchedd ac Adfywio, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod yr holl gostau yn cael eu cwrdd gan Gyngor Tref yr Wyddgrug oherwydd bod ganddynt brydles gan y Cyngor Sir i redeg y ganolfan i ymwelwyr a llety preswyl. Roedd yn deall pryderon aelodau’r pwyllgor ac fe awgrymodd y dylid cyflwyno diweddariad i’r pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda chynllun busnes a chynigion ar gyfer y ganolfan y gellid eu hadolygu.
Awgrymodd y Cadeirydd bod hyn yn cael ei ailgyflwyno ar ddechrau’r haf ac y gellid ei gydlynu gydag ymweliad safle.
Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins Cogan.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cwblhad llwyddiannus y datblygiad ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.