Mater - penderfyniadau

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

18/04/2024 - Shared Prosperity Fund

Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad, gan egluro y byddai’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu buddsoddiad o £2.5 biliwn hyd at fis Mawrth 2025 ar draws y DU.   Nod y rhaglen oedd “meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd”.  Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £126 miliwn i Ogledd Cymru ar gyfer darparu’r rhaglen rhwng 2022/2023 a 2024/2025 ac roedd £11 miliwn wedi’i ddyrannu i Sir y Fflint ar gyfer y rhaglen graidd.

 

Cymeradwyodd Cabinet y meini prawf a’r broses o ddyrannu cyllid gan y rhaglen i brosiectau ar 22 Tachwedd 2022 a rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) ac Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Economi i wneud hynny. Roedd proses drwyadl yn cael ei wneud a oedd yn cynnwys dau gam er mwyn gwneud penderfyniad terfynol ar ddyrannu i brosiectau haeddiannol, cyfanswm o 23.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu diweddariad ar ddyrannu cronfeydd CFfG i brosiectau a beth yw canlyniadau disgwyliedig y rhaglen ar gyfer cymunedau Sir y Fflint. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi argymhellion ar sut y dylid dyrannu cyllid CFfG wrth gefn sy’n codi, ac unrhyw gyllid heb ei ddyrannu yn ystod darparu’r rhaglen.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol ac roedd Aelodau ar y cyfan yn gefnogol o gynnwys yr adroddiad.  Roedd yr atodiadau i’r adroddiad wedi nodi’r prosiectau llwyddiannus a byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei gyflwyno unwaith bob chwe mis.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol; a

 

(b)       Bod y dull yr argymhellir i ddyrannu unrhyw arian wrth gefn o’r CFfG yn cael ei gymeradwyo a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Economi i weithredu’r ymagwedd hynny ac i reoli newidiadau o fewn y prosiectau a gymeradwywyd.