Mater - penderfyniadau

Disabled Adaptations Policy

18/04/2024 - Disabled Adaptations Policy

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn rhoi dyletswydd orfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu grantiau cyfleusterau i bobl anabl. 

 

Roedd y grant ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i unigolion anabl mewn annedd. Roedd yr adroddiad oedd yn manylu’r newidiadau i’r polisi oedd yn ofynnol i alinio addasiadau ar gyfer y sector preifat neu gyda rhai tai cyngor awdurdod lleol. 

 

Roedd y terfyn statudol ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn £36,000 ar hyn o bryd fesul cais o fewn cyfnod o bum mlynedd.    Fodd bynnag, mae modd cyflwyno ceisiadau eraill o fewn y cyfnod hwnnw os yw cyflwr meddygol y cwsmeriaid wedi newid.  Byddai’r achos yn cael ei adolygu gyda’r Therapydd Galwedigaethol ar ôl derbyn y cais.

 

Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod unrhyw waith addasu’n darparu’r

datrysiad mwyaf effeithiol yn y tymor hir i fodloni anghenion yr unigolyn anabl.

 

Datganodd y Cynghorydd Attridge, a oedd yn bresennol fel arsylwr, ddatganiad personol.  

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor Trosolwg Cymunedau a Thai wedi ystyried yr adroddiad fis ynghynt a chefnogwyd yr argymhellion.   Gofynnwyd nifer o gwestiynau, a’u hateb, ynghylch argaeledd Therapyddion Galwedigaethol a phridiannau tir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y polisi Addasiadau i Bobl Anabl a ddiweddarwyd oedd yn cynnwys cartrefi preifat ac eiddo stoc y cyngor yn cael eu cefnogi a’u cymeradwyo.