Mater - penderfyniadau

Flintshire Housing Need Prospectus

18/04/2024 - Flintshire Housing Need Prospectus

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod ar Lywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol (ALl) ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) wybod bod y prosbectws presennol wedi cael ei adolygu a bod drafft diwygiedig wedi cael ei ddatblygu i’w gymeradwyo.  Nid oedd fformat a chynnwys y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd.   Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol uwch am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad blynyddol ar brosbectws Anghenion Tai’r Cyngor er mwyn sicrhau, fel rhan o fframwaith Grantiau LlC, bod yr ALl yn nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol, yn ogystal â darparu crynodeb clir a chryno o’r angen a’r galw am dai.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hughes, eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i gynnig crynodebau pellach ar reoli cartrefi gweigion er mwyn darparu dadansoddiad pellach o eiddo lle nad oes llawer o alw amdanynt.

 

Roedd yr adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac ni chafwyd unrhyw sylwadau ar yr argymhellion.   Sefydlwyd Gr?p Tasg a Gorffen i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynnwys Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint; a

 

(b)       Nodi bod angen adolygu Strategaeth Tai Lleol 2019-2024 y flwyddyn nesaf.