Mater - penderfyniadau
Diweddariad Canol Blywddyn Cyflogaeth a Gweithlu
09/01/2024 - Employment and Workforce Mid-year Update
Cyflwynodd Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygiad Sefydliadol) ddiweddariad canol blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad o’r gweithlu ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill tan 30 Medi 2023.
Dangosodd drosolwg o’r meysydd allweddol effaith barhaus y pwysau cenedlaethol ar y gweithlu, yn enwedig yn y meysydd fel gofal cymdeithasol. O gymharu â’r un cyfnod yn 2022, mae yna gynnydd bach yn y trosiant a byddai cyflwyno arolwg electronig, yn ogystal â chyfweliadau gadael, yn helpu i ddeall y rhesymau. Adroddwyd ar sefyllfa well mewn perthynas â phresenoldeb, gyda’r prif reswm dros absenoldeb unwaith eto’n ymwneud ag iechyd meddwl. Fel rhan o ddull cadarn i reoli presenoldeb, mae polisi ar wahân yn cael ei ystyried i reoli salwch cronig tymor hir. Mae’r diweddariad ar y gwariant ar weithwyr asiantaeth yn dangos lleoliadau gweithredol ar adeg paratoi’r adroddiad ac yn amlygu cynnydd mewn meysydd arbenigol fel Gwasanaethau Plant. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant ar weithwyr asiantaeth wedi’i liniaru drwy arbedion yn sgil swyddi gwag neu gyfraniadau grant.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o wybodaeth ynghylch trosiant gweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nododd y Rheolwr Corfforaethol resymau posibl a chytunodd i geisio cael ymateb manylach gan y gwasanaeth i’w rannu gyda’r Pwyllgor. Mewn ymateb i sylwadau ar wasanaeth Iechyd Galwedigaethol y Cyngor, cyfeiriodd at ddeddfwriaeth fwy cymhleth i ddelio gyda materion iechyd lluosog a gofynnodd bod unrhyw bryder penodol yn cael eu cyfeirio ati hi’n uniongyrchol. O ran gweithwyr asiantaeth, eglurodd delerau’r Cyngor sy’n mynd y tu hwnt i ofynion rheoleiddiol.
O ystyried y pwysau ariannol sydd ar y Cyngor, holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch y cynnydd yn nifer y gweithwyr nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion, a gofynnodd am wybodaeth yngl?n â’r mathau o rolau a sicrwydd bod y costau’n cael eu rheoli. Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i rannu ymateb manwl ar wahân ond dywedodd fod y data yn darparu cipolwg ar yr adeg honno a bod y broses gadarn i reoli swyddi gweigion yn sicrhau bod pob swydd yn cael ei herio.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y gweithwyr asiantaeth o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a chafodd wybod bod gweithwyr dros dro ychwanegol wedi’u penodi i ddelio’n benodol â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau, gan nad oedd y broses recriwtio wedi arwain at benodiadau parhaol. Pan ofynnwyd am gost gyfartalog cyflogi unigolion drwy asiantaeth o gymharu â recriwtio’n allanol, cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i weld a allai rannu rhywfaint o fanylion contract gyda’r Pwyllgor yn gyfrinachol, o ystyried bod y mater yn un fasnachol sensitif, ond cynghorodd bod y system fatrics yn fwy cost effeithlon ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Debbie Owen.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Diweddariad Canol Blwyddyn ar y Gweithlu 2023/24.