Mater - penderfyniadau

Elections Act 2022 – Voter Identification (Voter ID) Update

18/04/2024 - Elections Act 2022 – Voter Identification (Voter ID) Update

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Etholiadau 2022 wedi gwneud nifer o newidiadau i broses etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Nid oedd hyn yn berthnasol i etholiadau Cyngor Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned neu’r Senedd.

 

Roedd rhai o’r newidiadau’n cynnwys y gofyniad bod pleidleiswyr yn dangos prawf adnabod â llun wedi’i gymeradwyo yn yr orsaf bleidleisio, newidiadau i reoliadau ceisiadau pleidleisio absennol, hawliau pleidleisio dinasyddion y DU a ‘phleidleisiau am oes’ ar gyfer etholwyr tramor

 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y broses prawf adnabod i bleidleisio a’r gefnogaeth a ddarperir i bleidleiswyr nad oedd ganddynt fath derbyniol o brawf adnabod â llun.  Mae hefyd yn

amlinellu’r gwaith a gwblhawyd i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio a’r trefniadau cyfathrebu arfaethedig

ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ddydd Iau 2 Mai 2024. 

           

            Cafwyd trafodaeth ar y mathau o ddulliau adnabod a fyddai’n dderbyniol a dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer ohonynt, a’u bod wedi’u rhestru ar wefan y Cyngor.   Dywedodd hefyd y gallai pobl wneud cais am bleidlais bost neu enwebu pleidleisiwr drwy ddirprwy ar eu rhan.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar hysbysu preswylwyr, eglurodd y Prif Swyddog eu bod wedi ysgrifennu at bob aelwyd yn Sir y Fflint â’r manylion, a bod datganiadau i’r wasg wedi cael eu cyhoeddi ac yn parhau i gael eu cyhoeddi yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bibby pa hyfforddiant fyddai’n cael ei ddarparu i’r staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio.   Eglurodd y Prif Swyddog fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio cyn bob etholiad ac y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant.   Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy gydol unrhyw gyfnod etholiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brawf Adnabod i Bleidleisio;

 

(b)       Cefnogi’r gwaith a gwblhawyd a’r trefniadau cyfathrebu sydd ar y gweill i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio.