Mater - penderfyniadau

Corporate Self-assessment

18/04/2024 - Corporate Self-assessment

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i Gynghorau gyflwyno adroddiad hunanasesu ar gyfer bob blwyddyn ariannol.  Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau yngl?n ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau yr oedd yn bwriadu eu cymryd, neu yr oedd eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

 

Roedd y model hunanasesu yn dilyn proses tri cham:

 

·         Cam un – dadansoddi a gwerthuso ‘wrth ddesg’

·         Cam dau - canfod barn, ymgynghori ac ymgysylltu

·         Cam tri - cyhoeddi’r asesiad terfynol a’r cynllun gwella

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod canlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol wedi nodi bod y Cyngor, ar y cyfan, yn perfformio’n dda yn erbyn yr asesiad; 3% Arfer Orau, 6% Arfer Orau / Tystiolaeth Dda a 74% Tystiolaeth Dda.  Nododd ganlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol gyfleoedd ar gyfer gwelliant hefyd; 14% Tystiolaeth ond Angen Camau Gweithredu Pellach a 2% Peth Tystiolaeth ond Diffyg mewn Meysydd Allweddol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Healey y ddogfen a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm â’r broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.