Mater - penderfyniadau
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5)
18/04/2024 - Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 5)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl gyntaf i Aelodau am sefyllfa monitro cyllideb Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyflwynodd y sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, fel yr oedd ym Mis 5.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £3.660 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog y byddai angen eu talu o gronfeydd wrth gefn - amcangyfrif o £2.727 miliwn ar yn o bryd), a oedd yn newid anffafriol o £1.016 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 4.
· Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £3.027 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.006 miliwn yn uwch na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.071 miliwn o’r ffigwr a adroddwyd ym Mis 4; a
· Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.191 miliwn.
Roedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â chynnydd parhaus mewn galw am wasanaeth yn
dod yn fwyfwy anodd i ddelio â nhw gan nad oedd cyllid y Cyngor yn gallu delio â graddfa’r pwysau hynny. Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu gwariant diangen ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a darparwyd yr atebion i’r cwestiwn naill ai yn y cyfarfod neu’n fuan wedyn.
Pwysleisiodd y Rheolwr Cyllid yr angen i wasanaethau ymdrin ag unrhyw gynigion i rewi gwariant mewn modd cadarn. Byddai neges am foratoriwm yn cael ei hanfon at bob aelod o staff.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2023/24.