Mater - penderfyniadau
Adolygu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf
12/04/2024 - Review of Winter Maintenance Policy
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o wasanaeth cynnal a chadw’r gaeaf dros y tymor diwethaf a chyfrifoldebau’r Cyngor, yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth ar gyfer adolygu’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf.
Roedd gweithrediadau gwasanaeth yn y gaeaf yn chwarae rhan allweddol o safbwynt sicrhau bod rhwydweithiau priffyrdd yn ddiogel ac ar gael yn ystod tywydd gwael o fis Hydref i fis Ebrill bob blwyddyn. Roedd y gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf yn cael ei adnabod fel un o’r swyddogaethau pwysicaf yr oedd yr awdurdod priffyrdd yn eu darparu. Roedd cynnal mynediad at y rhwydwaith yn hanfodol ar gyfer gwasanaethau brys, busnesau, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a’r cyhoedd.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf cyfredol, y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y sir i achosion eraill o dywydd gwael megis glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Rhoddwyd ymrwymiad i adolygu’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf bob dwy flynedd ac roedd yr adroddiad yn egluro’r gweithrediadau cynnal a chadw yn y gaeaf ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth arfaethedig a’r polisi cynnal a chadw yn y gaeaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf 2023-2025.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod yr adolygiad wedi tynnu sylw at gyfle i ailystyried y strwythur ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gynnal a chadw yn y gaeaf, yn ogystal â’r fformat ar gyfer y rhagolygon tywydd, sydd ar hyn o bryd yn seiliedig ar ddwy orsaf dywydd yn Hendre a Brynffordd. Roedd Swyddogion wedi bod yn archwilio llunio rhagolygon yn seiliedig ar lwybrau neu yn seiliedig ar feysydd yn lle’r dull presennol. Byddai gwaith yn cael ei gynnal yn ystod 2023-2024 gyda MetDesk i ddadansoddi’r canlyniadau a gesglir dros y gaeaf sydd i ddod, i benderfynu a yw’r model rhagweld y tywydd yn cynnig unrhyw arbedion ac os y gallai Sir y Fflint ei fabwysiadu yn y dyfodol. Cynigiwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr haf 2024 ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi a gynhaliwyd ar 12 Medi 2023, ystyriwyd y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2023-25. Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau yngl?n â blaenoriaethu llwybrau bysiau yn adran 3.2. Roedd llwybrau blaenoriaeth 1 yn cyfeirio at lwybrau gydag wyth neu fwy o wasanaethau bws yr awr ac roedd llwybrau blaenoriaeth 2 yn cyfeirio at bedwar neu fwy o wasanaethau yr awr. Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai gormod o wasanaethau hanfodol na fyddai’n bodloni’r naill gategori. Awgrymwyd y dylid newid Blaenoriaeth 1 a 2 i feini prawf llai penodol i gyfeirio at y ‘Rhwydwaith Bysiau Craidd’ a’r ‘llwybrau sy’n weddill’ yn y drefn honno. Roedd y newidiadau hynny wedi’u hadlewyrchu yn y ddogfen a gyflwynwyd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig;
(b) Nodi ymateb y portffolio i’r tywydd garw a gafwyd yn ystod 2022-2023;
(c) Cefnogi’r angen parhaus i gynnal y gyllideb refeniw fel y mae ynghyd â gwerth £250,000 o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi;
(d) Cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet yn 2024 yn dilyn adolygiad y darparwr rhagolygon tywydd o dymor 2023-2024 mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch triniaethau lleoliadau penodol.