Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
22/03/2024 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol a dywedodd y gallai’r diweddariad ar becynnau gofal wedi’u hariannu ar y cyd symud i fis Ionawr yn dibynnu ar yr eitemau oedd wedi’u trefnu.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am fwy o fanylion ar ddyraniadau cyllidebau mewn portffolios lle nad oedd llawer neu ddim amrywiannau. Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at y wybodaeth oedd yn yr atodiad a chytunodd i fwy o fanylder gael ei ddarparu yn yr adroddiad nesaf ar fonitro’r gyllideb. Cadarnhaodd hefyd y byddai adroddiad diweddaru arall ar gyllideb 2024/25 yng nghyfarfod mis Ionawr.
Ar gais y Cadeirydd, byddai adroddiad ar adolygiad yr ystadau diwydiannol yn cael ei drefnu at gyfarfod yn y dyfodol fel roedd y Cyngor Sir yn ei gytuno.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.