Mater - penderfyniadau
Strategic Capital Plan Prioritisation
12/04/2024 - Strategic Capital Plan Prioritisation
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fwrdd Rhaglen Rhanbarthol Gogledd Cymru, a phob rhanbarth yng Nghymru, i ddatblygu a gweithredu Cynllun Cyfalaf Strategol. Dylai’r cynllun adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf arfaethedig yr isadeiledd cymunedol i ddarparu gofal cymdeithasol a gofal iechyd cynradd a chymunedol. Y cynllun oedd yr unig fecanwaith i ryddhau cyllid cyfalaf allanol i’r Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â phob awdurdod lleol, timau iechyd a phartneriaid darparu gwasanaeth eraill.
Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfranogiad Cyngor Sir y Fflint yn y cynllun a’i fwriad strategol, gan nodi y byddai angen ailgyflwyno prosiectau unigol i’r Cabinet er mwyn eu cymeradwyo a’u hystyried yn unol â’r Rhaglen Gyfalaf a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson y wybodaeth ar yr asesiad effaith a lliniaru’r risgiau.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod yr adroddiad wedi cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr wythnos flaenorol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gofyniad am Gynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer Gogledd Cymru a’r prosesau blaenoriaethu ac achos busnes cysylltiedig sydd eu hangen i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru;
(b) Cymeradwyo cyfranogiad yn y rhaglen ranbarthol, y prosiectau arfaethedig a bwriad strategol y cynllun.