Mater - penderfyniadau

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol

11/12/2023 - Internal Audit Progress Report

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers y diweddariad diwethaf, cyhoeddwyd un adroddiad Oren Coch (peth sicrwydd) ar Ariannu Ysgolion - T? Ffynnon.  Roedd ychydig o amrywiad yn y camau gweithredu hwyr ac roedd trefniadau dilynol yn parhau gan gynnwys uwchgyfeirio i dîm y Prif Swyddogion.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, gofynnir i'r gwasanaeth Tai ddarparu adroddiad ar gamau gweithredu yn ymwneud â Maes Gwern, i roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod cynnydd yn cael ei wneud.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth am statws presennol camau gweithredu yn ymwneud ag Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) gan gynnwys cyfeiriad at ddatblygu cynllun ar gyfer digartrefedd.   Cytunodd y swyddog i gysylltu â chydweithwyr Tai a rhannu diweddariad gyda'r Pwyllgor.

 

Diolchodd Sally Ellis i'r tîm a'r Prif Swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu hwyr.  O ran camau gweithredu hwyr a chanolig, cododd bryderon ynghylch nifer y rhai â dyddiad cyflwyno diwygiedig ac awgrymodd y dylid rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gan Tai a Chymunedau a Gwasanaethau Stryd a Chludiant â'r Pwyllgor.  Cytunwyd y byddai'r diweddariad cyfun hwn yn cael ei gynnwys fel eitem ar agenda'r cyfarfod nesaf.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad;

 

(b)       Bod y gwasanaeth Tai yn rhannu adroddiad ar gynnydd gyda chamau gweithredu heb eu cyflawni o'r archwiliad ar Drefniadau Cytundebol Maes Gwern; a

 

(c)       Rhannu eitem ar statws presennol y camau gweithredu hwyr o dan Tai a Chymunedau a Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn y cyfarfod nesaf.