Mater - penderfyniadau
Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25
18/04/2024 - Council Tax Base for 2024/25
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad gan egluro bod gosod sail Treth y Cyngor yn rhan annatod o’r broses gosod cyllid refeniw a Threth y Cyngor
ar gyfer 2024/25. Roedd yn galluogi cyfrifo praesept Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf ar gyfer Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
ar gyfer Gogledd Cymru.
Council Tax precept.
Roedd y sail wedi cael ei gyfrifo yn 66,081, ar gyfer eiddo sy’n cyfateb â band ‘D’ ar ôl
ystyried y cyfanswm o eiddo a fyddai’n destun Treth y Cyngor,
gan gynnwys y rheiny sy’n destun cyfraddau premiwm Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai
sydd wedi’u heithrio o Dreth y Cyngor neu lle mae gostyngiadau statudol i gartrefi’n berthnasol.
Mae gosod y sail dreth ar 66,081 gyfwerth â band ‘D’ hefyd yn ymgorffori’r
parhad o gyfraddau premiwm Treth y Cyngor o 75% ar gyfer eiddo Gwag Hirdymor
a 100% ar gyfer Ail Gartrefi. Yn gyffredinol mae hyn yn cynrychioli twf yn y sail dreth
o 0.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynrychioli 266 ychwanegol o eiddo sydd gyfwerth â band D.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r sylfaen dreth yn seiliedig ar 66,081 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25;
(b) Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan; ac
(c) At ddibenion pennu’r sylfaen dreth, mae’r sylfaen yn ymgorffori newidiadau arfaethedig i gyfraddau premiwm treth y cyngor a gosod cyfraddau ar 75% ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor a 100% ar gyfer Ail Gartrefi.