Mater - penderfyniadau

Food Service Plan

29/05/2024 - Food Service Plan

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i gyflwyno'r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023/24 ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a thalodd deyrnged i waith y Tîm Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd yn ystod y pandemig Covid.    Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010. Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth am y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Busnes a Diogelu Cymunedol yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau.  Dywedodd y Rheolwr Tîm - Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd am y prif gyflawniadau ar gyfer 2022/23 a’r targedau ar gyfer 2023/24 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 20 o’r adroddiad, targedau ar gyfer 2023/24 a thudalen 59 a nifer o archwiliadau a drefnwyd ar gyfer Safonau Bwyd a Hylendid Bwyd yn 2023/24 a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol os byddai’r nifer o ymchwiliadau a gynhaliwyd yn 2023/24 yn cael ei amlygu a darparu manylion.    Hefyd, cyfeiriodd at y prif gyflawniadau ar gyfer 2022/23 ar dudalen 20 a’r pwynt bwled ‘Roedd nifer sylweddol o arolygon Bwyd wedi eu cyflawni yn ystod blwyddyn oedd wedi gweld adnoddau ar gyfer arolygon Bwyd Fferm wedi’i effeithio gan y firws Ffliw Adar’ a dywedodd nad oedd yn defnyddio’r gair “Pob un” fel mewn categorïau eraill.  Gofynnodd a oedd y targedau ar gyfer 2023/24 yn cyfrannu at yr ôl-groniad o waith oedd yn weddill.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at dudalen 26 o’r adroddiad, adran 1.2 yn cysylltu i Amcanion a Chynlluniau Corfforaethol a gofynnwyd sut oedd y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn ymwneud â’r maes blaenoriaeth ‘Tai Fforddiadwy a Hygyrch’.

 

Ymatebodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd y cysylltiadau i Gynllun y Cyngor 2023-28.  

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Peers o amgylch llwyth gwaith y Rheolwr Tîm - Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd, cyfeiriodd at y data a ddarparwyd ar dudalen 62, atodiad 3 a’r nifer o arolygon bwyd a drefnwyd a chyflawnwyd.  Hefyd, rhoddodd eglurhad am adnoddau a dyrannu staff fel y manylwyd yn Adran 4 o’r Cynllun.   Eglurodd y Rheolwr Tîm fod y gwaith oedd yn hwyr yn risg isel yn bennaf a byddai’n cael ei flaenoriaethu yn dilyn asesiad risg ac roedd gwybodaeth leol wedi’i manylu yn Atodiad 2 o’r Cynllun.    Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Peers, dywedodd sut y byddai categorïau risg yn cael eu blaenoriaethu ac yn derbyn sylw.    Roedd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned a’r Rheolwr Tîm wedi rhoi sicrwydd ac eglurhad yngl?n â gallu a phrofiad y Gwasanaeth i ddelio gydag achosion brys neu argyfwng.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, dywedodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned os byddai perchennog newydd yn cymryd drosodd busnes bwyd, yna eu cyfrifoldeb nhw oedd sicrhau bod eu staff wedi eu hyfforddi yn addas i ymgymryd â’r gwaith.    Amlinellodd y Rheolwr Tîm - Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd y cyngor a’r gefnogaeth a ddarparwyd i fusnesau newydd.    Hefyd, ymatebodd y Rheolwr tîm i’r cwestiwn pellach a godwyd gan y Cynghorydd McGuill yn ymwneud â rheoliadau a safonau oedd yn berthnasol i allfeydd bwyd cyflym symudol.   

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mike Peers ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023-24.