Mater - penderfyniadau

Adnewyddu Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru

10/04/2024 - Renewal of the North Wales Construction Partnership Framework

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod y defnydd o fframweithiau caffael yn cael eu cydnabod yn eang ac yn cael eu defnyddio fel ffordd o leihau costau trafodion, gan ddarparu gwelliant parhaus o fewn perthnasoedd hirdymor ac i alluogi sefydliadau sector cyhoeddus i gael gwell gwerth a mwy o gyfoeth cymunedol.

 

Fe sefydlwyd Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru yn 2014, yn bennaf i gyflawni adeiladu adeiladau ysgol newydd, neu ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol presennol o dan Gymunedau Cynaliadwy ar gyfer dysgu Llywodraeth Cymru

a oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol felRhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Roedd y Fframwaith yn bartneriaeth rhwng y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel yr Aelod Arweiniol. Fe gyflawnodd y Fframwaith ystod o brosiectau ar draws gwahanol sectorau a gallai hefyd gael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn y rhanbarth i gyflawni eu prosiectau adeiladu.

 

Fe ddaeth y cytundeb fframwaith cyfredol i ben ym Mai 2024, ac mae'r adroddiad yn amlinellu’r dull arfaethedig ar gyfer adnewyddu’r Cytundeb Fframwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ymagwedd a amlinellwyd i gaffael cenhedlaeth nesaf fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru.