Mater - penderfyniadau

Social Services Director’s Annual Report

21/02/2024 - Social Services Director’s Annual Report

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod yn rhaid i Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi'i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

Janet Bellis – balch iawn o’r adroddiad a hyrwyddo llais pobl ddiamddiffyn yn Sir y Fflint.  Balch o Brosiect Search.  Rhyddhau o’r ysbyty a gweithio’n agos gyda phartneriaid ym maes iechyd.  Defnyddio’r adroddiad hwn i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein llwyddiannau a pharhau i wrando ar bobl Sir y Fflint ac ymateb yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog am yr holl waith rhagorol a wnaed ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd fod y cyfraniad gan staff ar bob lefel i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad drafft, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ni ar gyfer 2023/24 yn cael ei gymeradwyo.